Bu llawer o'r Clwb yn cystadlu yn Eisteddfod y Mudiad ym M么n. Cawsom y canlyniad terfynol gorau ers blynyddoedd maith. Daeth Rhosybol yn gydradd ail, dim ond tri phwynt tu 么l i Glwb Llangefni, yr enillwyr. Ymysg y llwyddiant i'r Clwb oedd ennill Cadair Norman Ponsonby (Llenyddiaeth), Tarian Si芒n Emlyn (Eitem Mwyaf Doniol) a Tharian Dr a Mrs Haydn Edwards (Celf a Chrefft). Bu Mared Huws yn cystadlu wedyn yn Eisteddfod Cymru yn y gystadleuaeth Llefaru dan 26 oed. Bu Sgets Rhosybol yn cystadlu hefyd yn Eisteddfod Cymru a chawsom drydydd. Da iawn i pawb a fu'n cymryd rhan ac i bawb a gafodd lwyddiant. Fel Clwb buasem yn falch iawn o ddiolch i Mrs Sandra Owen, Mr Gwyndaf Jones ac i Mr Iwan Evans am ein hyfforddi. Cawsom lwyddiant yn y Ffair Aeaf hefyd. Dyma rai o'r canlyniadau - Catrin Jones - 2il barnu gwartheg; Gareth Parry 3ydd dangos oen; Llion Jones a Natasha Williams - 1af yn addurno coeden Nadolig ac hefyd cafodd Natasha 2il yn unigol efo'r collage. Da iawn i bawb. Rydym wedi bod yn cael ein diddori yn y Clwb hefyd. Ar ddechrau'r tymor bu'r Fyddin yn egluro ychydig am eu gwaith a phawb wedi mwynhau. Daeth Elfed Hughes atom i wneud Cwis, pawb wedi dysgu llawer ac wedi cael hwyl fawr yn twyllo! Cawsom weithdy gwneud gemwaith gan Eirian
Williams ac roedd pawb yn llawer mwy crefftus erbyn diwedd y noson. Hefyd daeth Si么n Roberts i'n diddori gyda straeon am ei drip yn Seland Newydd. Roedd gan pawb lawer o gwestiynau diddorol. Diolch i bawb a fu yn y Clwb. Bu rhai o aelodau'r Clwb yn y Range ym Mangor yn saethu ar 22 Tachwedd. Diolch i Swyddogion y Range, i George Stuart ac i Enfys Huws am helpu ar y noson. Yr enillwyr oedd Rhys Williams ac Eirian Williams. Mae gan y Clwb noddwyr newydd. Mae'r Bedol ym Mhenysarn wedi helpu i dalu am grysau Rygbi i aelodau'r Clwb. Bydd y bartneriaeth yma yn parhau oherwydd maent yn mynd i baratoi Lobscows i ni ar 么l bod yn canu Carolau ar 22 Rhagfyr. Diolch i'r Bedol. Mae Parti Nadolig y Clwb yn y Lastra ar 29 Rhagfyr
|