Dw i wedi bod yn hapus iawn ers symud i Farian-glas ac mae'r ardal yn dylanwadu ar fyngwaith celf. Mae'r gymysgedd o dirwedd, golygfeydd arfordirol a'r adeiladau hen a newydd wedi treiddio i fy ngwaith. Mae yna olau a lliwiau arbennig yn yr ardal ac mae yna deimlad o hanes a Chymreigrwydd sydd hefyd yn bwysig i mi. Byddaf yn gwneud lluniau mewn pensel, dyfrlliw a phaent olew. Uchafbwyntiau diweddar fy ngyrfa fel arlunydd oedd arddangos fy ngwaith yng Nghystadleuaeth Arlunydd Cymraeg y Flwyddyn yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac yn Arddangosfa Gelf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni. Byddaf yn arddangos casgliad newydd o waith yn y Ganolfan Hamdden ym Miwmares flwyddyn nesaf ac yn Oriel M么n y flwyddyn wedyn.
|