Yn aml, gall cyfle i ddysgu am fyd natur tra byddir yn yr awyr agored ennyn diddordeb mewn ecoleg a chodi awydd i ddysgu
mwy.
Gall hefyd chwalu'r
rhwystrau a grëir gan iaith
wyddonol a jargon, fel y daw gwyddoniaeth yn ystyrlon ac yn gyffrous.
Mae dysgu yn yr awyr agored wedi'i ddogfennu'n dda o ran yr effeithiau cadarnhaol a gaiff ar ffyniant personol, cymdeithasol a chorfforol unigolion, a deallir y buddiannau hyn ar lefel genedlaethol, wrth i'r llywodraeth lansio mentrau i hyrwyddo defnydd yr awyr agored ar gyfer iechyd.
Hyd yn oed os nad yw unigolion yn teimlo'n angerddol tuag at yr amgylchedd naturiol, mae angen iddynt wybod rhywbeth, gan mai codi
ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglÅ·n a byd natur yw'r ffordd orau o sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir.
Wedi'r cwbl, oni bai
fod byd natur yn iach, ni fyddai unrhyw ddiwydiant awyr agored.
Er mwyn i bobl fwynhau a gwarchod byd natur, mae angen rhoi mwy o sylw i'r gwaith o hyrwyddo ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth ynglÅ·n a'r amgylchedd.
Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal cyfres o ysgolion undydd ecoleg a daeareg, am ffi lawn £45, ffi gostyngedig £20 yr un.
Arweinir yr ysgolion undydd ecoleg gan Jim Langley a bydd y rhai daeareg o dan ofal Paul Gannon, awdur Rock Trails Snowdonia. Saesneg fydd cyfrwng yr ysgolion undydd.
Ceir ychydig o ostyngiadau ar gyfer pob ysgol undydd, ar sail y cyntaf i'r felin.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01248 382 708.
|