Dro ar 么l tro rydym wedi cael y fraint
o longyfarch unigolion a grwpiau sydd wedi cael llwyddiant ysgubol
yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol dros gyfnod o ugain
mlynedd. Tu 么l i'r llwyddiant yma mae Diana Hughes, Pen Cefn, a bellach mae ei merch Lowri Francis Hughes yn dilyn llwyddiant ei mam fel
hyfforddwr. Yn Eisteddfod Y Bala eleni Lowri
aeth 芒'r wobr 1af am ddawnsio disco unigol a hi fu'n
hyfforddi y gr诺p dawnsio creadigol gafodd 2ail wobr.
Bellach mae Lowri ar gychwyn ei hail flwyddyn yn y Coleg Dawns
a Perfformio yn Lerpwl a'r haf yma cafodd ran yn Sioe Eira Wen a'r
Corachod yn Theatr Y Rhyl. Dymunwn yn dda i Lowri i'r dyfodol ac unwaith eto diolch i'w mam Diana am ei llwyddiant a'i gwaith caled yn sicrhau pleser a mwynhad i gymaint o blant ac ieuenctid yr ardal.
|