Trefnodd Mrs Tegwen Owen a'r merched de rhagorol rhwng y ddau gyfarfod.Cafwyd canu swynol dan arweiniad Mrs Eirlys Ryder a Mrs Gr锚s Pritchard yn offrymu gweddi. Gwrandawyd ar y plant a'r bobl ifanc yn adrodd eu hadnodau a'u holi gan Mrs Eluned Jones.Cyflwynwyd tystysgrifau am bresenoldeb i ddeunaw o blant o Ysgolion Sul Carmel, Seilo a Capel Ifan. Gwobrwywyd Si么n Glyn Pritchard, Llio Owen, Non Owen, Haf Owen, Beth Owen (oll o Gapel Ifan), Garmond Williams (Seilo) am bresenoldeb llawn.Llywydd yr hwyr oedd Mrs Carys Lisk gyda Llio Owen yn darllen, offrymwyd gweddi gan Mrs Elizabeth ap Thomas. Safodd pymtheg o blant a phobl ifanc yr arholiad llafar. Wrth gyflwyno y tystysgrifau a'r marciau llawn canmolodd Mr Donald Glyn Pritchard safon uchel yr Ysgolion Sul. Gwobrwywyd y canlynol: Garmon Llyr Williams (Seilo), Osian Dafydd Jones, Iwan Robat Jones, Beth Owen, Mari Gwenllian Evans, Alison Marie Burford, Haf Owen, Nia Owen, Non Owen, Carwyn F. Thomas, Cai ab Arfon, S卯on Glyn Pritchard, Nia Woodcock (Carmel). Cyflwynwyd eitemau a roddodd fawr fwynhad i'r gynulleidfa gan Ysgolion Sul Carmel a Chapel Ifan. Talwyd y diolchiadau i bawb am Gymanfa lewyrchus gan y Cadeirydd, Mr Owie Jones (Seilo) ac anogodd gefnogaeth y dosbarth i'r dyfodol. Roedd casgliad y diwrnod yn 拢100. Roedd trefniant llwyddiannus y Gymanfa yng ngofal Mr Donald Glyn Pritchard, Ysgrifennydd y Pwyllgor.
|