Y ddau oedd Parys a'r Mona, a'r ail, ar ochr Penysarn, oedd y cyntaf i ddechrau gweithio. Ychydig yn ddiweddarach y dechreuodd Cwmni Parys agor yr Opencast Mawr.
Ers deng mlynedd mae Gr诺p Tanddaear Parys, neu PUG, wedi cyfarfod yn wythnosol i archwilio hen weithfeydd Mwynglawdd Parys.
Ond yn ystod yr haf diwethaf dechreuodd ychydig o aelodau lleol ailagor mynedfa Gwaith Mona.
Roedd hwn wedi hen ddymchwel a bu rhaid clirio'r gwastraff, gosod coed newydd, codi gwaith cerrig a drws i'w ddiogelu.
Yng nghanol mis Medi y llynedd, ar 么l misoedd o waith caled, ac am y tro cyntaf ers 100 mlynedd, roedd yn bosibl teithio o waith Mona i weithfeydd Parys.
Roedd yn rhaid disgyn 270 0 droedfeddi, trwy bum troedfedd 0 dd诺r lle mae'r ffin rhwng y ddau, cyn cyrraedd gweithfeydd Parys.
Oedd, roedd y ddau waith wedi cysylltu a'u gilydd ymhell o dan y ddaear.
Yna roedd cyfres o risiau cerrig ac ysgolion pren yn arwain yn 么l i'r wyneb.
Nid taith i'r gwangalon yw hon ond sylweddolwyd gwaith pa mor galed oedd gan y mwynwyr.
Ers y fenter yna ym mis Medi mae'r aelodau wedi parhau i archwilio twneli a chreudyllau Gwaith Mona.
|