Wedi dweud hynny, cafwyd ambell ddigwyddiad diddorol yn yr ysgol.
Bu Bl 6 yn Ysgol Goronwy Owen yn gwylio sioe bypedau. Rhan o'r cynllun pontio rhwng Ysgol Gynradd ac Uwchradd oedd y cyflwyniad, ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn arw.
Bu plant yr ysgol i gyd yn darganfod am y pentref. Cafodd y Babanod gyfle i fynd i chwilio
am flodau gwyllt yn arbennig clychau'r gog, gan iddynt fod eisiau
astudio Natur a Bywyd ar
Ffarm. Y bwriad oedd paentio
eu lluniau. Roedd yn dipyn o helfa a dweud y lleiaf gan fod y blodau gwyllt yn mynd yn brin. Lluniau
Bu Mr Gwynant Parri yma yn tynnu lluniau ysgol - pawb
yn posio a gwenu trwy'r bore - ond mi fydd y lluniau yn rhai gwerth chweil!
Yn olaf y mis yma bu'r ysgol yn Llandudno ar gyfer Jambori, neu Rimbojam fel a'i galwyd gan yr Urdd. Roedd y plant wedi bod yn dysgu'r caneuon drwy gydol yr wythnos, a braf oedd eu gweld yn clapio a chanu gyda channoedd o blant eraill i ganeuon cyfarwydd. Bu i ni benderfynu gwneud diwrnod ohoni hefyd a chael picnic ar y Prom yn Llandudno. Diwrnod bendigedig i ddweud y gwir! Hen ysgol
Ar yr un diwrnod aeth yr Adran Iau am helfa eu hunain - i chwilio am ysgol gyntaf Carreg-lefn. Mae'r ysgol hon yn cuddio tu 么l i Felin Nant. Ar 么l cerdded ar draws y caeau, a heibio'r felin dd诺r sydd yn ddiddorol dros ben ynddo'i hun, mi gyrhaeddwch yr ysgol. Mae'n rhyfeddol bod gymaint o'r ysgol yn parhau gan feddwl bod y dyddiad ar y wal yn dynodi 1748! Roedd y plant wedi rhyfeddu gweld maint yr ysgol, a bod unrhyw blentyn wedi cael addysg yn y fath le. Agoriad llygaid go iawn!
|