Fis Mehefin diwethaf llwyddodd Steffan Smith, ac wyth o'i gydweithwyr o gwmni Mowlem, i ddringo'r tri mynydd uchaf yn y Deyrnas Unedig mewn 24 awr - a hynny gyda phum munud yn sb芒r! Teithiasant i'r Alban ddydd Sadwn, 26 Mehefin a chychwyn ar eu gorchest am 5.45 o'r gloch trwy ddringo Ben Nevis (l344m). Yna teithiasant i Cymbria a dechrau dringo Scafell Pike (978m) am 5.00 y bore, cyn teithio i Gymru i ddringo'r Wyddfa (1085m). Roedd tri arall o'u cydweithwyr yn gofalu am y gyrru. Codasant dros 拢2000 tuag at ward y newydd-anedig yn Ysbyty Gyffredinol Wythenshaw, Manceinion. Steffan yw'r ail o'r chwith yn y llun.
|