Erbyn hyn mae Gareth Rowlands o Fenllech yn un ohonynt.
Ond tydi bywyd ddim yn hawdd ac mae Gareth ar ei gyfyng gyngor yn y wlad bell. Ac nid methiant ond llwyddiant sy'n achosi penbleth.
Fel seren ym myd chwaraeon mae'n rhaid i Gareth ddewis rhwng p锚l-droed a ph锚l-droed Americanaidd gan fod dau hyfforddwr mewn gwahanol Golegau yn Tennesse yn ei chwennych - neu mewn geiriau eraill "Ar ei 么l o.'
Ac nid yn aml y caiff bachgen ddau wahoddiad Colegol fel hyn i ddyrchafu ei hun a graddio mewn gyrfa y mae eisoes mor llwyddiannus ynddi.
Fel disgybl chwe troedfedd a thair modfedd yn Ysgol Syr Thomas Jones fe enillodd Gareth Ysgoloriaeth p锚l-fasged i'r King's Academy yn Knoxville, Tennesse, ddwy flynedd yn 么l.
Erbyn hyn daeth yn amser i'r chwaraewr dawnus 18 oed wneud penderfyniad ond fe fydd unrhyw ddewis o'i eiddo yn golygu aberth ariannol.
Yn 么l ei dad Elfed mae ei ddyfodol yn dibynnu ar y gefnogaeth ariannol a gaiff ym M么n.
Mae Gareth yn fachgen amryddawn iawn mae wedi chwarae rygbi ac mae'r Americaniaid yn fawr edmygu ei ddawn cicio.
Bu ar dreial hefo West Bromwich, Birmingham a Blackburn a bu'n chwarae i'r Amwythig.
Yn awr mae wedi cael cynnig dwy ffordd i ennill gradd ond mae arno fawr angen $10,000 i fynd yn ei flaen, neu fe fydd rhaid iddo droi ei gefn ar gyfleoedd fuasai'n gwyrdroi holl gwrs ei fywyd.
|