Bu Ifan a Sali, Chwillan Bach a minnau yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Eglwys Penrhosllugwy 'slawer dydd. Pan ddechreuais yn yr Ysgol Ramadeg yn y Neuadd Goffa yn Amlwch, roedd Nans eu chwaer yno'n ddisgybl h欧n a charedig dros ben. Mawr oedd fy edmygedd o'u brawd mawr, Jaci, a phe bawn yn onest, fel unig blentyn yr oeddwn yn dra eiddigeddus ohonynt, yn enwedig pan gyrhaeddodd y brawd bach, Robin.
Dyma'r darlun hyfryd o Chwillan Bach sydd wedi aros yn fyw iawn yn y cof ers ymhell dros hanner canrif bellach.
Ni fedrai'r un t欧 fod yn nes at y m么r, yn wir deuai'r m么r i mewn drwy'r drws ar ambell i lanw uwch na'i gilydd. Y peth cyntaf welech ar 么l mynd i mewn oedd y Beibl Teuluol yn gorffwys ar ddarllenfa ar ffurf eryr aur ar y wal ar y dde. Yn y gegin; ar y wal gyferbyn a'r ffenestr, roedd y dreser, ac ar un adeg, yr ochr draw i'r dreser, yn uchel ar y wal, crogai llun o Iesu Grist yn gwisgo'r goron ddrain. Roedd hwn yn un o baentiadau cynnar, pwerus Jaci. Wna i byth anghofio'r ing a'r tosturi oedd wedi'i gloi yn y darlun yma.
Roedd y croeso yn werth y siwrnai hir yno, yn enwedig yn y gaeaf. Byddai tanllwyth o d芒n yn y gr芒t, ac ambell dro byddai fflamau gleision yn dawnsio pan losgid drec m么r neu lo a gasglwyd ar y Daran o'r ochr draw i'r afon.
Ar nos Wener, bron yn ddieithriad, byddai sosbenaid anferth o lobsgows yn ffrwtian ar y pentan a dysglaid, gymaint a heddiw ac yfory, o bwdin reis yn y popty. Roedd Mrs Hughes, Chwillan Bach yn enwog am ei phwdin reis!
Roedd aelwyd fyrlymus Chwillan Bach yn nefoedd o le. Byddai yno ddigonedd o hwyl ddiniwed ac Ifan yn tynnu coes pawb yn ddiwah芒n, ond yn enwedig felly Sali, Robin a minnau. Ond roedd yno ddifrifwch hefyd, llawer o gynghorion doeth gan Jaci i un fel fi oedd yn cael trafferth dewis pa yrfa i'w dilyn. Yn y diwedd penderfynais fynd i'r Coleg Normal, ei hen Goleg ef, a rhoddodd ei lyfrau i gyd i mi, gyda llawer o nodiadau ar ymyl y dalennau a fu o gymorth mawr.
Un o'r pethau cyntaf a gofiai Jaci oedd cael ei godi gan ei dad i freichiau rhywun ar fwrdd llong lo oedd wedi dod i mewn i Draeth Dulas. Yn anffodus roedd ei fam newydd ei wisgo mewn siwt wen newydd yn barod i gychwyn i rywle!
Yn laslanc adeiladai ei gychod ei hun gyda gwiail ac American oilcloth, ac roedd yn ddigon medrus i forio ynddynt gryn bellter. Unwaith, er syndod i bawb, hwyliodd i Foelfre draw.
Adroddai'r hanes amdano'i hun yn rhwyfo cyn belled ag Ynys Dulas yn un o'i gychod. Yno, digwyddodd rhyw anffawd fel na fedrai rwyfo yn ei 么l. Roedd yn llanc hynod abl a chryf ac yn nofiwr penigamp; ni phetrusodd cyn neidio i'r d诺r a nofio am adref gan wthio'r cwch o'i flaen.
Pwy oedd yn digwydd edrych allan i'r m么r ond William Jones, Glan Morfa, y cymydog agosaf, gwelodd gwch yn y pellter a rhuthrodd i'r t欧 i n么l y 'binocs'. Ie, cwch Jaci oedd yna! Ond doedd dim golwg o Jaci. Beth oedd wedi digwydd iddo?
Prysurodd a'r newydd i Chwillan Bach a mawr fu'r pryder gan fod y llif o gwmpas yr Ynys mor dwyllodrus a chymaint wedi boddi yno dros y blynyddoedd.
Ar 么l hir a hwyr sylweddolwyd bod y cwch yn trafaelio yn araf yn 么l i'r traeth. Ar 么l deall beth oedd yn digwydd aeth John Hughes i n么l y fwyell. Prin fod traed Jaci ar dir sych nad oedd ei gwch wedi ei falu'n gyrbibon - a hynny heb i'w dad ddweud gair!
Cyn mynd i'r Coleg Normal bu'n dysgu am gyfnod yn Llannerch卢-y-medd, gan deithio yno ar ei feic. Mae rhai o blant y Llan yn dal i gofio'r sesiynau p锚l-droed dan ei ofal. Neidiai pawb dros y llidiart i mewn i'r cae p锚l-droed, ond ar 么l y chwarae caled dim ond Mr Hughes oedd yn gallu neidio'r llidiart ar y ffordd yn 么l!
Wedi gadael y Coleg aeth i'r Fyddin, i'r Corfflu Addysgol (Education Corps), ble roedd yn rhingyll. Rhaid edmygu ei fentergarwch tra yn y Fyddin. Gwnaeth yn fawr o'i ddawn arlunio trwy roi hysbyseb ar ei ddrws ei fod yn derbyn archebion am gardiau pen blwydd, cardiau Ffolant a chardiau Dolig. Dwy geiniog oedd pris cerdyn., ac erbyn amser mynd adref am seibiant roedd ganddo dipyn o arian wrth gefn.
Un tro cyn dod adref o Wersyll Tonypandy prynodd feic rasio gan gyd-ringyll oedd yn gadael i fynd i'r Almaen. Reidiodd y beic yr holl ffordd adref a'i git bag ar ei gefn er mwyn arbed pris cludiant ar y tr锚n. Dyna feic cyntaf Ifan.
Gadawodd Donypandy am yr Almaen ble enillodd fedal arian am redeg. Daeth yn ail i redwr Marathpn a aeth ymlaen i gynrychioli t卯m Olympaidd Prydain. Gwisgodd ei dad, John Hughes, y fedal ar ei
gadwyn wats gyda balchder. Cyrhaeddodd y brig hefyd yn y cylch bocsio.
Edrychai ymlaen at dreulio Nadolig 1947 adref yn Chwillan Bach. Fel y gellid dychmygu, mawr oedd y disgwyl amdano. Cychwynnodd ar ei siwrna adref mewn tywydd garw ac erbyn cyrraedd y Porthladd i fyrddio'r Fferi i groesi'r Sianel roedd yno filwyr dirifedi. Pan gyrhaeddodd y llong bu rhuthr mawr i geisio cael ar ei bwrdd gyda rhai dynion yn gwthio, ffraeo ac yn troi yn eithaf cas. P'run bynnag methu a chael ar ei bwrdd fu hanes Jaci a bu rhaid aros dwy awr am y llong nesaf.
Yn y cyfamser gwaethygodd y tywydd yn Sianel yn ddirfawr ac aeth y Fferi gyntaf yn ysglyfaeth i'r ystorm. Arferai John Hugh wrando'n ddeddfol ar y newyddion ar y 'weiarles' a phan glywodd am golli'r llong yma cymrodd yn gyniat芒ol bod Jaci ar ei bwrdd. Mae Ifan yn cofio'r noson honno'n glir. Bu'r tad a'r fam ar eu traed drwy nos yn galaru.
Ymhen dwy awr hwyliodd Fferi arall o Wlad Belg am Brydai gyda gweddill y milwyr a rhai carcharorion rhyfel Almaenig ar ei bwrdd. Glaniodd yn ddiogel ond dihangodd rhai o'r carcharorion felly bu rhaid i amryw o filwyr, dan ofal y Rhingyll Hughes, dreulio llawer o amser yn chwilio amdanynt a'u cornelu yn y diwedd.
Daeth telegram i Chwillan Bach. Roedd Jaci ar ei ffordd adref, ac roedd am i bawb fynd i Ben y Wrach i'w gyfarfod oddi ar y bwrdd. Roedd yn Noswyl Nadolig. Nid oes geiriau all ddisgrifio'r llawenydd ar yr aelwyd y diwrnod hwnnw.
A'r fenter gwerthu cardiau? Wel, roedd wedi talu'n dda. Daeth milwr hapus i lawr o'r bws dan ei sang. Dim rhyfedd ei fod am i bawb ddod i'w gyfarfod, roedd ganddo anrhegion i bob aelod o'r teulu. Llyfr am s锚r y ffilmiau gafodd Nans ac mae Sali yn dal i s么n am goits-gadair oren llachar gafodd hi. Roedd Jaci yn dipyn o seicolegydd. Bellach, roedd Sali fach yn medru gwthio'r ddol yn goits oren ochr a'i fam neu Nans yn gwthio coits Robin, ei brawd bach! Tystia'r teulu mai dyma'r Nadolig gorau fu erioed ar aelwyd Chwillan Bach.
Amser caled oedd y ddegawd wedi'r rhyfel, a mawr yw clod Ifan i'w frawd h欧n am ei haelioni tuag atynt fel brodyr a chwiorydd iau. Rhaid cofio bod Ifan ddeng mlynedd yn fengach ac roedd Jaci erbyn hyn yn athro yn Amlwch. Sylwai pan oeddant angen rhywbeth newydd dywedai, "Da ni'n mynd am dro i Fangor ddydd Sadwrn." Ar 么l cyrraedd byddai yn mynd a nhw yn syth i gael p芒r o esgidiau newydd neu beth bynnag arall oedd ei wir angen.
Dygwyd y newydd trist am ei farwolaeth i Ysgol Penysarn, ei hwn ysgol, pan roedd yr Eisteddfod flynyddol ar fin dechrau. Ar gais Prifathro, Mr Owen cadwyd munud o dawelwch er parch iddo. Roedd y mwyafrif o'r gynulleidfa yn neiniau a theidiau, mamau a tad gydag atgofion melys amdano. Llawer yn ei gofio'n amyneddgar a theg bob amser. Doreen (Allan), fel sawl un arall, yn falch o ddweud: "Fo a'm dysgodd i nofio yn yr Afon Groes"; Teimlai rhieni bod plant yn ddiogel yn y m么r os oedd Jaci yno hefyd.
Mae fy nyled yn fawr i Nans, Ifan, Sali a Robin am rannu atgofion am frawd annwyl, am athro, arlunydd, tynnwr lluniau, hanesydd, pregethwr, cymwynaswr parod, ffrind cywir a'r Cristion ffyddlon; Mawrygaf y fraint.