Barod i Hwylio Mai 2007 Cafodd plant Blwyddyn 1 a 2 Ysgol Gynradd Amlwch brofiad arbennig ddechrau'r mis pan gawsant fynd ar Pickle, llong Mr Robin James ym Mhorth Amlwch.
Buont ar ei bwrdd yn sgwrio'r dec, yn troi y llyw ac yn gwrando ar Mr Peter Williams yn s么n am glymu'r rhaffau mewn gwahanol ffyrdd.
Dangoswyd ffilm iddynt o fywyd ar long debyg tua 500 mlynedd yn 么l a'r plant yn cael cyfle i deimlo'r gloch ac astudio'r map a'r cwmpawd.
Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Diolch i Robin am y cyfle unigryw yma.