Gelwir ef yn cranberry yn Saesneg am fod coes a phen y blodyn yn debyg i wddf a phen y crëyr. Awgryma'r enw llugaeron ei fod yn ffisig da i wella pla, a'r enw ceirios y wern ei fod yn tyfu mewn corsydd. Mae'r llysiau sydd yn pydru mewn corsydd mawnog yn gwneud y pridd yn sur ac er bod y rhan fwyaf o'r planhigion yn methu dygymod a'r surni, mae ceirios y wern yn ffynnu arno.
Mae gan y ffrwyth y gallu i gadw bwyd rhag pydru a byddai brodorion Gogledd America yn gwneud defnydd o'r rhinwedd yma. Byddent yn cymysgu cig neu bysgod wedi eu sychu gyda ceirios y wern a'u ffurfio yn gacennau cyn eu sychu yn yr haul. Yn ystod misoedd hirion y gaeaf byddai'r cacennau hyn yn fwyd maethlon, cyfoethog mewn proteinau a fitaminau. Oherwydd eu bod yn cynnwys fitamin C byddai llongwyr yn cludo barilau o'r ffrwyth i'w diogelu rhag y llwg (sgyrfi). Mae yfed sudd ceirios y wern yn rhwystro bacteria rhag ymosod ar y bledren ddŵr ac achosi cystitis. Os torrwch aeronen yn ei hanner fe welwch fod pedair coden aer tu mewn iddi. Mae hyn yn golygu nad oes raid i dyfwyr y ffrwythau eu casglu'n llafurus gyda'u dwylo. Gellir gorlifo y caeau a gwneud i'r aeron arnofio ar wyneb y dŵr a'u caglu gyda rhawiau. Heddiw mae peiriannau i'w cael sydd yn gwahanu'r aeron gorau oddi wrth y gweddill trwy wneud iddynt sboncio. Gwerthir y sboncwyr gorau fel ffrwyth cyfan a'r lleill fel sudd neu jeli. Bwyteir ceirioes y wern ar ddydd Diolchgarwch, sef y pedwerydd dydd Iau o Dachwedd yn Unol Daleithiau America ac ar yr ail ddydd Llun o Hydref yng Nghanada. Cynhyrchir 250 miliwn cilogram o'r ffrwyth mewn blwyddyn yn UDA a Chanada. Beth am i ni i gyd fwyta'r ffrwyth yma? Gall ein gwarchod rhag clefyd y galon a chancr. Mair Williams
|