Dyma fel y cofnodir amdano yn Capeli Môn (Geraint I. L. Jones).
"Mae'r adeilad ym Mhentrefelin ar gyrion Amlwch. Sefydlwyd yr Ysgoldy yn 1860 fel cangen o Gapel Mawr, Amlwch. Mae'r adeilad (a gostiodd £564) yn dyddio o 1905. Adeiladwyd yn y dull lleol diweddaraf gyda mynediad talcen. Y pensaer oedd Richard Davies, Bangor. Mae'r adeilad mewn cyflwr gweddol dda ".
Fel y nodir cangen o'r Capel Mawr oedd y Llaethdy gyda'r addolwyr wedi eu cofrestru yn y Capel Mawr. Yn bennaf gwasanaetha'r capel ardal Pentrefelin a chynhelid oedfa ac Ysgol Sul yno yn gyson.
Y daith sabathol fyddai i'r pregethwr gwadd fod yn y Capel Mawr nos a bore ac yn y Llaethdy yn y pnawn. Fe fu cyfnod llwyddiannus iawn yn hanes y Llaethdy gyda nifer o ddosbarthiadau yn yr Ysgol Sul a phartïon i'r plant ar achlysuron arbennig.
Ysywaeth, gwanhau wnaeth mynychwyr gwasanaethau y Llaethdy. Dros y blynyddoedd olaf cafodd cyfrifoldeb rhedeg y Llaethdy ei ysgwyddo gan Mr William John Roberts a gartrefai gyfagos.
Bellach mae Mr Roberts yn cartrefu yn y Brwynog. Mae ein diolch yn fawr iddo am ei ddyfalbarhad.
Os oes hanesion, lluniau neu atgofion am y Llaethdy byddem yn falch o'u cynnwys yn Yr Arwydd.
|