´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Dysgwyr ar yr Hysbys ym Moelfre Cymraeg yn Gyntaf
Tachwedd 2006
Dyma ail ymweliad ymgyrch 'Wythnos Cymraeg yn Gyntaf' â thref Amlwch. Pwrpas yr ymgyrch a gynhaliwyd rhwng 13-20 Hydref, ydi annog pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau bob dydd
Dwi'n gobeithio fod y llu digwyddiadau gafwyd yn y dref wedi adlewyrchu hynny, a chodi ymwybyddiaeth ei bod hi'n bosib cael hwyl yn y Gymraeg. Fe ddaeth croesdoriad eang o'r gymdeithas at ei gilydd yn ystod yr wythnos ac os caf i, Haf Wyn, fel Swyddog Datblygu yn y dref, fe hoffwn ddiolch i drigolion Amlwch a'r fro am eu parodrwydd i helpu.

Mae'n bwysig ein bod ni Gymry Cymraeg yn cychwyn bob sgwrs yn Gymraeg yn yr ardal yma a thu hwnt, a chario 'mlaen hefo'r sgwrs, fe synnech chi faint o bobl sydd yn medru'r Gymraeg ond am wahanol resymau wedi arfer peidio â gwneud hynny.

Yn ystod yr wythnos cefais sgwrs gyda'r Parchedig Stephen Roe o Amlwch, sydd i'w longyfarch ar ddysgu'r Gymraeg mewn amser byr, ac sydd bellach yn pregethu trwy gyfrwng yr iaith yn rhwydd. Roedd ganddo sawl cyngor i ni Gymry Cymraeg ar sut i ddelio a dysgwyr. Dyma nhw i chi:

Rhai sylwadau rhagarweiniol:

  • Os ydych chi'n ymwybodol bod rhywun yn dysgu Cymraeg, mi fedrwch chi ragdybio eu bod nhw'n awyddus i'w hymarfer.
  • Y broblem fwyaf i ddysgwr ydy cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth.
  • Rydych chi'n siarad Saesneg yn well na'r dysgwr/aig yn siarad Cymraeg. Felly chi sy'n dewis yr iaith rydych chi'n ei defnyddio gyda'ch gilydd
  • Mae hyder yn hollbwysig. Bob tro mae dysgwr/aig yn defnyddio Cymraeg yn llwyddiannus maen nhw'n cael ychydig mwy o hyder.
  • Sut i annog dysgwyr - rhai awgrymiadau:

  • Dechreuwch bob sgwrs yn Gymraeg.
  • Parhewch yn Gymraeg mor hir â phosib.
  • Bydd y dysgwr/aig yn methu â' ch deall chi o dro i dro. Pan ddigwyddith hyn:
    * Ailddywedwch yr hyn ddywedoch chi.
    * Siaradwch yn arafach.
    * Ynganwch bob gair yn llawn (e.e. 'dw i ddim wedi' nid 'dwimdi').
    * Ceisiwch ddefnyddio geiriau gwahanol i ddweud yr un peth.
    * Defnyddiwch arwyddion syml
    * Os oes rhaid, defnyddiwch cyn lleied o Saesneg ag sydd modd, wedyn trowch yn ôl i'r Gymraeg.
  • Mae pawb yn deall mwy na mae nhw'n gallu ei ddweud. Mae hi'n hollol bosibl cael sgwrs pan mae un person yn siarad yn Gymraeg yn bennaf, a'r llall yn Saesneg.
  • Gorffennwch bob sgwrs yn Gymraeg.
  • Yr hyn ddylech chi ddim ei ddweud:

  • Mae Cymraeg yn iaith mor anodd i'w dysgu.
  • Mae gynnoch chi lawer i'w ddysgu eto.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    ´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý