Llongyfarchiadau mawr i'r plant am gymryd rhan yn yr ymgyrch sillafu ac am liwio'r llun siapiau ar lan y mor i godi arian tuag at yr elusen NSPCC. Llwyddodd y plant i gasglu £367.86c tuag at yr NSPCC. Da iawn chi! Diolch o galon i bawb a gyfrannodd. Daeth Mr Ambrose i'r ysgol i dynnu lluniau'r plant a'u gosod argylchau allweddi. Gobeithio i chi gofio gwenu! Daeth y gwerthwyr gwisg ysgol Orchid Fashions i'r ysgol i bawb gael cyfle i weld a phrynu'r wisg ysgol swyddogol. Daeth Mrs Gwyneth Jones a Mrs Linda Jones o Ysgol Syr Thomas Jones i Rosybol at blant Bl 6 i sgwrsio ychydig am yr Ysgol Uwchradd. Ar 28 Mehefin cafodd plant Bl 6 gyfle i dreulio diwrnod cyfan yn yr Ysgol Uwchradd. Dymunwn lwc dda i'r holl blant sy'n gadael Rhosybol am Ysgol Syr Thomas Jones. I Barc Henblas a Llechwedd bu'r plant ar dripiau eleni. Dosbarth Mrs Hughes yn cael diwrnod o hwyl yn Henblas a dosbarthiadau Mrs Tarrant a Mr Jones yn mwynhau yn Llechwedd. Mwynhau perfformiad o'r ddrama 'Y Daith' wnaeth plant dosbarth Mr Jones. Cawsant ymuno â phlant Moelfre a phlant Llanbedrgoch yn Ysgol Gynradd Moelfre. Cerdded Llwybr y Mwynwyr ar lethrau'r Wyddfa ym mhentref Llanberis bu Mrs Tarrant a'r disgyblion. Cawsant ddiwrnod braf a phawb wedi mwynhau. Mae eleni'n flwyddyn drist yn hanes yr ysgol. Mae'r Prifathro, Mr Gareth Jones yn ymddeol wedi 17 mlynedd fel Prifathro yma. Bu'r cyfnod hwn yn gyfnod hapus, llawen a hwyliog yn ei gwmni. Hoffai'r plant i gyd ddiolch yn fawr iddo a dymuno ymddeoliad hapus, hapus iawn iddo.
|