Dyma fel ysgrifennodd Eryl Rowlands (cyn-organydd yn y Capel) am yr organ yn Yr Arwydd Chwefror 1988.
Mae organ y Capel Mawr yn offeryn arbennig iawn. Gwir fod rhai mwy na hi yng nghapeli Mon, ond hi yn ddios yw'r organ efo'r pwer mwyaf o 'i maint y gwn i amdani.
Er fod organ Moreia, Llangefni yn fwy, nid yw i 'w chymharu a'r organ hon o ran grym.
Owen Hughes, gweinidog y Capel o 1892-1906 oedd yn gyfrifol dros ei chael, fel yr organ bibau gyntaf i unrhyw gapel Cymraeg ym Mon.
Erbyn Hydref 1905, roedd y gwaith ar fin dechrau, ond roedd Owen Hughes yn ei fedd cyn agor yr organ ar 6 Mehefin 1906, gan Roland Rogers, Bangor.
Adeiladwyd hi gan gwmni Alexander Young a'i Feibion, Manceinion, ar gost o 拢800.
Mae iddi 1278 o bibau, dau faniwal a bwrdd pedalau, dau ddwsin stop lleisiol a phum stop cyplysu, gyda phum piston troed.
Fe'i chwythid ar y dechrau gan ddwy fegin fawr a godid ac a ostyngid drwy droi olwyn fawr a handlen arni.
Ym mlynyddoedd y chwythu a llaw, rhaid fyddai i rywun fynd allan a chnocio llawr y llwybr ar gyfer cefn yr organ i ddweud wrth y chwythwr pa bryd i ddechrau a pha bryd i beidio chwythu.
Erbyn 1912 fe gafwyd peiriant nwy i 'w chwythu a pheiriant petrol tua 1929.
Fel yn hanes llawer un a llawer peth mae 100 o flynyddoedd yn gadael ei 么1.
Mae angen sylw eithaf sylweddol ar yr organ ac mae'r Swyddogion mewn trafodaethau i ganfod y ffordd ymarferol yrnlaen.
|