Wedi symud pob peth o'r Neuadd roedd un peth ar 么l a hwnnw oedd 'Memorial' i'r hogia oedd wedi colli eu bywyd yn Rhyfel 1914-1918.
Mae cofnod yn Awst 27ain 1919 o gyfarfod Pwyllgor y Neuadd
"Fod y Pwyllgor hwn yn rhoddi ar gof a chadw, ddiolchgarwch diffuant i 诺yr Y Ddrama, Cemaes yn rhoddi i fyny yn yr Hall Gist Goffa mor ddestlus i ddewr-w欧r ieuanc yr ardal a gallasant eu
bywydau yn y rhyfel diweddar."
Ar 么l tynnu'r Gofeb a'i chadw yn saff yn yr hen Glwb Billiards,
penderfynwyd bod yn rhaid adnewyddu'r Gofeb.
Roedd yn amlwg
fod rhaid cael rhywun gyda sgiliau arbennig i ymgymryd a'r gwaith.
Bu peth pendroni pwy oedd gyda'r sgiliau perthnasol. Roedd hogyn
lleol, ond yn byw yn Llangefni, gyda blynyddoedd o brofiad yn
gwneud y math yma o waith, sef Alan Torr.
Ar 么l glanhau'r Gofeb daeth Alan o hyd i ddau label un bob ochr
i'r Gofeb, un yn dweud fod y Gofeb wedi ei gwneud allan o goed y
llong HMS Britannia, Cadet Trainig Ship, 1869-1905.
Hefyd ar 么l
glanhau'r Gofeb fe ddaeth yn amlwg fod y Groes sydd ar ganol y Gofeb wedi cael ei gwneud allan o gopor, doedd hyn ddim yn amlwg
ar y cychwyn gan fod y Groes yn ymddangos mai wedi ei phaentio
yn lliw gwyrdd oedd.
Mae enwau'r hogia a gollodd eu bywyd yn cael eu hail ysgrifennu
ar y Gofeb, a bydd yn cael ei gosod yn 么l yn y Neuadd mewn lle amlwg.
Gwilym Iorwerth
|