Bob blwyddyn, bydd cwpan y diweddar Gynghorydd L. M. Pritchard yn cael ei dyfarnu i'r unigolyn neu grŵp sydd wedi dangos gofal a charedigrwydd tuag at eraill.
Yr enillydd eleni ydy Rees Bowdler, disgybl ym Ml 4. Mae Rees yn wastad yn barod i gynorthwyo a gofalu am eraill, gyda gwên ar ei wyneb bob amser. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Cafodd plant Bl 3 a 4 amser difyr yn Ffair Lyfrau Diogelwch y Cartref yn y Neuadd Goffa. Cawsant eu rhybuddio i fod yn ofalus gyda thân gwyllt, cael gwybod lle i gadw bwyd yn y rhewgell a thrafod y peryglon yn y tŷ.
Bu plant Bl 5 a 6 yng Nghanolfan Conwy yn cael cyfle yno i ddatrys problemau, i ddringo ac i greu rhaffau a phawb wedi mwynhau eu hunain a chael profiadau gwerthfawr.
I'r Wylfa yr aeth plant Bl 1 a 2 a chael cyfle i fynd ar hyd y llwybr natur, i arbrofi ac edrych yn fanwl ar ddail a ffrwythau'r Hydref. Diolch yn fawr i staff y Ganolfan Groeso am y croeso.
Dydd Gwener olaf yr hanner tymor, daeth y Tad Dylan i'r ysgol a chafwyd Gwasanaeth o Ddiolchgarwch ar gyfer y disgyblion, gyda plant dosbarth Miss Delyth Roberts yn cymeryd rhan. Gwnaethpwyd casgliad yn ystod y dydd tuag at Gartref Brwynog.
Rydym yn croesawu Mr Gareth Pawson a Miss Anona Farrell atom. Myfyrwyr ôl-radd ydy'r ddau yn Adran
Addysg Prifysgol Bangor ac maent yn treulio ychydig wythnosau yn cael profiad yn yr ysgol. Pob lwc i'r ddau ohonoch.
|