Ac ni fu'r panelwyr a wahoddwyd eleni yn eithriad wrth i'r cyfreithwyr Eleanor Davies, Ieuan Redvers Jones a John Meredith wynebu cawod (wel, rhyw hanner dwsin!) o gwestiynau wedi eu dewis gan yr holwr craff-brofiadol, Vaughan Hughes. Cafwyd atebion diddorol iawn i'r honiad mai asyn yw'r gyfraith. Hoff ddinas Ieuan Redvers Jones yw St Peterburg, gan iddo gael y wefr o weld y darlun Dychweliad yr Afradlon - ac yntau'n gorfod rhoi tro cofiadwy ac arwyddocaol yn 么l i weld y darlun yn iawn. Ond ar Foscow yr oedd bryd Eleanor Davies, a John Meredith yn profi hudoliaeth yn nes adref yn Sycharth. Ym myd y drwgweithredwyr fe hoffai Eleanor wybod paham yr oedd Dr. Shipman eisiau cymryd rhan Duw. Hoffai John Meredith gyfarfod 芒 Guto Ffowc a gwybod ai ysb茂wr oedd Shakespeare. Hoffai Ieuan Redvers Jones wybod sut cafodd Hitler a Bin Laden y fath atgasedd tuag at eu cyd ddynion. Yr oedd John Meredith am holi Goronwy yngl欧n 芒'i gymhelliad i adael M么n. Hoffai Eleanor Davies a Ieuan Redvers gael sgwrs 芒'r Barnwr Denning a buasai cael gair 芒 Beethoven yn ateb ambell gwestiwn i Ieuan Redvers hefyd. Oes Victoria oedd yn apelio at Eleanor Davies ac Ieuan Redvers Jones ond fe fuasai cyfnod yn Oes yr Haearn yn ateb llu o gwestiynau i John Meredith. Pa ddeddf sydd ei hangen ar F么n? Yn 么l Eleanor Davies, deddf i warchod ein hadnoddau gwledig - post, banc ac ysgol. Fuasai Ieuan Redvers Jones ddim yn gwrthwynebu deddf i ail bobi Cyngor Sir Ynys M么n a chan fod gennym Faes Awyr, Porthladd a Gorsaf B诺er fe groesawai John Meredith ddeddf fuasai'n cyhoeddi annibyniaeth gweriniaeth M么n. Sut ddiwrnod fuasai diwrnod delfrydol i aelodau'r panel? John Meredith - brecwast da, cerdded dros y Carneddau, pryd ysgafn, gwely a photel dd诺r poeth. Eleanor Davies - eistedd dan goeden ar lan afon yn yr haf hefo llyfr da ac mewn heddwch pur. Ieuan Redvers Jones - codi 6.30 o'r gloch yn ei gell tan hanner dydd, gweld Lerpwl yn curo Manchester United, yna tanllwyth o d芒n a llymaid o gynhesrwydd i ymlacio. Noson ddifyr yn wir ac y mae ein dyled yn fawr i'r cadeirydd ac i'r tri phanelydd am roi cymaint o fwynhad i ni - ac am eu haelioni. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi.
|