Yn yr Henblas, Llangristiolus, yn ddiweddar bu Dr Gwawr Jones, Bangor, yn darlithio ar Elin, ferch Lewis Morris. Bu Elin yn forwyn yn yr Henblas am oddeutu dwy flynedd pan oedd hi'n enethig. Trwy garedigrwydd y perchenogion, cymwys oedd cynnal y cyfarfod yno. Buan y sylweddolwyd fod y darlithydd wedi cwblhau paratoadau manwl a daliodd ddiddordeb y gynulleidfa yn ei phortread o'r gwrthrych gyda'i chyflwyniad a'i thraddodi huawdl.Yn ystod y cyfarfod manteisiwyd ar y cyfle i gyflwyno rhai o drysorau'r ynys i ofal Cyngor Ynys M么n. Yr oedd y Gymdeithas wedi prynu llungopi o Llyfr Hir Porthamal, sef llyfr o farddoniaeth ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Hefyd, prynwyd copi o'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1770), a olygwyd gan Richard Morris. Ar y noson cyflwynwyd y ddwy gyfrol i'r Cyfarwyddwr Addysg, Mr Richard Parry Jones, a derbyniodd hwynt yn ddiolchgar ar ran y Cyngor Sir.
Yn ddiweddar sicrhaodd y Gymdeithas ganiat芒d i osod cofeb i Si么n Morris (1713-40), yr ieuengaf o'r Morrisiaid, ar bared Eglwys Blwyf Penrhosllugwy. Cyflawnwyd hynny ar fore hyfryd, Sadwrn, 12 Mehefin, mewn cyfarfod arbennig, ac yr oedd yr eglwys yn llawn. Cynhaliwyd y gwasanaeth dan nawdd y Gymdeithas. Dechreuwyd a'r Defosiwn a weinyddwyd yn fyr ond yn rymus gan y Parchedig Ganon Ddr. Graham D. Loveluck, Marian-glas.
Yna'r dadorchuddio a chymwys oedd gweld y Parchedig Ddr. Dafydd Wyn Wiliam, cofiannydd y Morrisiaid, a phrif sylfaenydd y Gymdeithas, yn cyflawni'r weithred o ddadlennu. I ddilyn cafwyd tair alaw o'r ddeunawfed ganrif ar y Delyn Deires gan y delynores feistrolgar Llio Rhydderch. Daeth Dafydd Wyn Wiliam ymlaen drachefn i draddodi crynodeb o fywyd byr Si么n Morris fel prydydd, cerddor, morwr, llythyrwr ac anturiaethwr, o gyfnod ei fagwraeth ar aelwyd ddiwylliedig Pentre-eiriannell hyd at ei farw cynnar ar draeth yn Dominica, 22 Rhagfyr 1740. Cafwyd gwrandawiad astud, ac wrth gwrs, codwyd awydd y gynulleidfa am hanes Si么n Morris am fod y siaradwr wedi goleuo ein hadnabyddiaeth ohono trwy gyfrwng ei gyfrol ddiweddaraf.
Yn nesaf daeth Mrs Mair Williams ymlaen i draddodi 'Portread o Mr Robin Hughes', rhoddwr a naddwr y goflech. A hithau'n dra chyfarwydd a'i hardal, cyfeiriodd at amryw gysylltiadau diddorol gan ddal ar naws a chefndir y cyfnod.
O glywed ymateb y crefftwr lleol, Mr Robin Hughes, hawdd gweld ei fod yntau, fel Si么n Morris gynt, yn adnabod ei ardal ei hun yn dda, a bod y rhan yma o F么n, a'r byd natur o amgylch, yn agos iawn at ei galon. Mynegodd fel y bu'n dewis y llechen, a'i llunio'n ofalus gan weithio ysgrythiad o gwch hwyliau arni, ac yr oedd hynny, meddai, yn gais pur anghyffredin. Lluniodd y llechfaen ar batrwm cofeb Marged, mam Si么n Morris, a hyfrydwch oedd gweld y ddwy gofeb ar fur mewnol yr eglwys, y naill wrth ochr y llall.
Canwyd rhai emynau yn ystod y gwasanaeth, a'r organydd ifanc, Mr Ieuan Jones o Benrhosllugwy, yn cyfeilio. Roedd hwn yn gyfarfod teilwng a chofiadwy. Dyfynnir yma y gwpled a welir ar gofeb Si么n Morris:
Cyfaill i bawb, fe'i cofir,
Sion hael, na thariasai'n hir!
M. Ll. W.