Yr awdur yw Robin Evans, mab Mrs Lil Evans a'r diweddar Capten Robert Evans (Bob Teras i ni yma ym Moelfre!). Yn anffodus nid oedd Robin yn gallu bod yno ar y noson gan ei fod yn glaf yn Ysbyty Gwynedd - da iawn yw deall ei fod adref erbyn hyn ac ar wella - daliwch ati Robin! Yr oedd y gwesty yn orlawn a phawb yn eiddgar am gael copi o'r llyfr. Brian Hope gafodd y fraint o gyflwyno'r llyfr a'i gynnwys i'r gynulleidfa ac ar yr un pryd dymunodd yn dda i'r awdur. Cafwyd sgwrs hefyd gan Sandy Balfour o Gaergybi am y Royal Charter a'i freuddwyd ef am i'r saga honno gael ei phortreadu mewn ffilm rhyw ddydd. Rhoddodd Cwmni Theatr Ieuenctid M么n gyflwyniad theatrig o'r hanes a hynny yn effeithiol iawn a bu'r gr诺p 'Canu Coch' o Lanbedrgoch yn swyno'r gynulleidfa 芒'u cyfraniad hwythau. Trefnwyd raffl lwyddiannus gan Gwenda a Margaret Parry. Mwynhawyd y lluniaeth a drefnwyd gan staff y Getws pawb yn canmol. Diolchodd Eifion Hughes i Derlwyn Hughes am drefnu'r noson ac i bawb a fu'n cymryd rhan. Hyfryd oedd cael cwmni David T. Evans, mab y Cocsyn Richard M. Evans a rhai o deuluoedd ei griw, yn y lansiad. Mynnwch gopi o'r llyfr! Mae o ar werth yn Siop Wl芒n Helen a Siop Grefftau Twm Penstryd.
|