Oherwydd fy ngwyliau blynyddol, a oedd wedi'i drefnu ymlaen llaw, methais 芒 mynd i arwyl fy hen gyfaill, Capten William Owen, Hayden Villa, Llanbedrog. Er imi ymddeol o fod yn weinidog arno ers rhai blynyddoedd, yr oedd yn parhau i'm hystyried felly. Gelwais i'w weld, fel roedd yn digwydd. y prynhawn cyn iddo gael ei gymryd oddi wrthym. Yr oedd yn rhy wael i siarad, ond deallais iddo ynganu'r gair 'gweinidog' ac ychydig a feddyliais y byddai wedi'n gadael drannoeth ar ei fordaith olaf.
Ychydig ddyddiau wedyn cafodd angladd parchus yng Nghapel Rehoboth (E.F.) Llanbedrog (lle magwyd ei annwyl briod, Ellen Catherine Owen) dan arweiniad y Parchedig Peter James, Botwnnog.
Yn ystod y blynyddoedd, cefais aml sgwrs ag ef, ac ni fyddai'n hir cyn mynd 芒 mi i siarad am y m么r ac am Ynys M么n. Ganwyd ef yng Nglandon, ym mhentref enwog Moelfre ar 21 Mai 1914 yn fab i William ac Annie Owen, yr ail o chwech o blant. Yr oedd yn gefnder i'r enwog Richard Evans. Moelfre. Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Cyngor, Llanallgo ac yn un ar ddeg oed llwyddodd ef a'i gydymaith, yr actor enwog Hugh Grifths, i basio'r Scholarship.
Rhedodd y filltir a hanner adref i roi'r newydd da i'w fam, ond pan glywodd hi synhwyrodd ei bod ar un llaw yn falch ac ar y llaw arall yn drist. Wrth dywallt paned o de iddo dywedodd na allai fforddio ei anfon i'r Ysgol Ramadeg ac fel y gwyddom, digwyddodd hyn i lawer yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag ni chythruddodd ac ni chafodd ei siomi yn ormodol: dywedodd wrth ei fam am beidio 芒 phoeni gan ei fod am fynd i'r m么r, yr unig alwedigaeth a oedd ar gael ym Moelfre y pryd hynny i fachgen ar fin gadael yr ysgol.
Wedi iddo ddychwelyd ir ysgol y prynhawn hwnnw, gofynnodd y Prifathro, (R. M. Edwards) iddo gymryd gofal o ddosbarth y Babanod am fod Miss Griffith yr athrawes wedi'i chymryd yn wael, a bu'n hapus iawn yn gwneud y gwaith hwnnw dros dro.
Wedi gadael yr ysgol cafodd gynnig mynd i baentio Stanley Street, Moelfre, siop groser a dillad am gyflog o dri swllt, ac wedi iddo gwblhau y gwaith hwnnw derbyniodd deligram yn cynnig iddo ymuno 芒'r llong Gracechurch a oedd wedi angori yn Sunderland, ac yntau ychydig fisoedd dros dair ar ddeg oed. Teithiodd ar y tr锚n o Fangor a chael ei hun yn Sunderland am saith o'r gloch fore trannoeth, a'i Saesneg yn ddigon prin.
Sylwodd fod y llong yn newydd grai, ac wedi cael cyfweliad 芒'r Capten ymunodd 芒'r criw fel deck boy am gyflog o 拢1.10 swllt y mis.Hwyliodd i ddeheudir Cymru a glanio yn nociau'r Barri gerllaw Caerdydd ac wedi llwytho deuddeng mil o dunelli o lo, dyna hwylio am Buenos Aires a oedd yn fis o fordaith. Yr oedd bwyd ffres wedi gorffen ar 么l deuddydd ac nid oedd oergelloedd yn y dyddiau hynny, felly profodd brinder bwyd maethlon a chaledi bywyd y m么r yn gynnar, ac yntau'n fachgen ar ei dyfiant.
Er hynny, ni ddigalonnodd a phenderfynodd wneud galwedigaeth fel morwr er garwed yr ymddangosai pethau ar y cychwyn. O Buenos Aires hwyliodd am Montevideo, ac ar 么l llwytho deuddeng mil o dunelli o indrawn (maize) yno, mynd ymlaen am ddeheudir Ffrainc i Marseilles, ac oddi yno drwy'r Mor Du heibio i hen ddinas Caercystennin, yna ymlaen i eithafoedd gogledd Rwsia, lle'r oedd yr hin yn gynddeiriog o oer. Sylwodd y Capten ar long arall wedi angori dros y bae, ac ar 么l gweld mai ei gefnder oedd Capten honno, cafodd ein cyfaill ifanc y gorchwyl o rwyfo'r Capten dros y bae i ymweld 芒'i gefnder!
Ar y llong cafodd deisennau i'w bwyta a llawer o groeso. Wrth adael Rwsia dysgodd y bachgen o Foelfre sut i lywio llong a chafodd fod wrth y llyw wrth iddynt fynd trwy Gulfor Medina, yr Eidal pan y'i goddiweddwyd gan storm arw. Wrth adrodd am y digwyddiad yn ddiweddarach, wedi cyrraedd porthladd Embden yn yr Almaen yn ddiogel, soniodd am ei ddychryn a'r ffaith ei fod wedi ystyried gadael y m么r am byth.
Yr oedd yn anfon pymtheg swllt y mis o'i gyflog i'w fam a oedd yn ei adael gyda phymtheg swllt iddo'i hunan. Gadawodd y llong yng Nghasnewydd, Gwent ar 么l un mis ar ddeg o wasanaeth gyda phum punt o gyflog. Yna, wedi dychwelyd i Foelfre ar 么l ei fordaith gyntaf, aeth yn syth at ei daid i dalu dyled o bunt iddo, y swm a roes ei daid yn fenthyg iddo wrth gychwyn i'r m么r.
Ei daid, Richard Mathews, oedd cigydd y pentref. Yr oedd mor falch o weld ei wyr wedi cael dod adref yn ddiogel, ac yn gwerthfawrogi ei onestrwydd yn talu'r ddyled, fel y rhoes 拢5 yn anrheg iddo. Yr oedd hyn yn wers bwysig i fachgen pymtheg oed ac ni anghofiodd y wers honno gydol ei oes.
Ar 么l ysbaid adref dychwelodd ir m么r. Yn fuan pasiodd ei arholiadau ac yn dair ar hugain oed enillodd ei dystysgrif Capten: dipyn o gamp, gallwn feddwl, i fachgen mor ifanc. Adeg yr Ail Ryfel Byd bu'n cario llwythi o bob math ar draws yr Iwerydd ac o gwmpas traethau Cymru a gwledydd eraill Prydain: gwaith eithaf peryglus yng nghyfnod y rhyfel, ac ni ddihangodd heb gael ei fomio fwy nag unwaith - ond yn ffodus llwyddodd i arbed ei long bob tro, a chyrraedd y lan yn ddiogel.
Yr oedd yn flin, fel llawer o'i gydforwyr am na chafodd y Llynges Fasnachol (Merchant Navy) ei chydnabod am y gwaith aruthrol a gyflawnodd drwy gyfnod ofnadwy y rhyfel. Credaf fod cydnabyddiaeth wedi dod erbyn hyn, ond yn rhy hwyr i lawer o'r morwyr dewr a fentrodd eu bywydau mewn cyfnod anodd.
Bu'n feistr ar amryw o longau yn perthyn i wahanol gwmn茂au o Lerpwl, yr Iwerddon, Bryste a Manceinion ac roedd yr amryfal gwmn茂au yn ei barchu am y gwyddant ei fod yn gydwybodol a gonest a dibynadwy. Ymddeolodd ar 么l blynyddoedd hapus ar y m么r yn y flwyddyn 1979 a setlo yn Llyn, lle mae ei blant, Dennis, Gwenda a Meryl yn byw gyda'u teuluoedd.
Bellach, hwyliodd i mewn ir porthladd tawel, clyd, o swn y storm a'i chlyw. I ddiweddu'r deyrnged anghyflawn hon, dyfynnaf o drosiad ardderchog ein cyfaill Dic Goodman, Mynytho o Crossing the Bar, Tennyson -
Machlud seren yr hwyr,
Ac i mi, un galwad clir.
Na fydded ubain oerllyd ar y bar
Wrth imi adael tir.
A'r llanw hwnnw'n llenwi'n swrth a llyfn
Rhy rymus i greu stwr,
Wrth droi am adref o'r diderfyn dyfn
I lan y dwr.
Sain cloch a therfyn dydd,
Ac yna'r caddug maith,
Na fydded tristwch, na ffarwelio prudd,
Pan af i'm taith.
Ac er i'r llong a'r llanw 'nwyn i ffwrdd
O fyd ac amser dyn,
Gobeithiaf y caf weled ar ei bwrdd
Y Peilot mawr ei hun
R. Glyn Jones