Cadwodd y wreichionen ynghyn bron i'r diwedd, a hynny yn ddewr a di-gwyn. Pwy all beidio 芒'i edmygu? Hawdd fyddai enwi sawl rhifyn o Bapur Bro pe gofynnid i'w gydnabod o'r gwahanol gylchau ddechrau hel atgofion. Diolch fod gennym ei atgofion ei hun yn y gyfrol Dic Ty Capel.Dysgodd yn fuan sut i ymestyn ei hun i gystadlu 芒'r gorau. Cofiaf ef yn dweud un tro fel y byddai fel aelod o deulu mawr, yntau ar ben hynny yn gorffyn cymharol eiddil o'i gymharu 芒 rhai o'i frodyr pan yn blentyn, yn gorfod defnyddio ei holl gyfrwystra weithiau i gael ei faen ei hun i'r wal.
Un ystryw am y fforc ganddo oedd gollwng ei fforc ar lawr wrth y bwrdd bwyd, a phan fyddai'r rhai hyn yn siwtio'r fforc, cai yntau gythru am ei si芒r o frechdanau. Mi fyddai Dic gamau o flaen rhywun weithiau, fel y chwaraewr gwyddbwyll medrus ag yr oedd. Ond roedd ynddo werthoedd dyngarol a chymdeithas dda aelwyd werinol y Ty Capel, y werin y ganwyd y rhelyw ohonom iddi, i iawn ddefnyddio'r craffter hwnnw.
Yn ei eiriau ef ei hun wrth s么n am aelwyd (er mai am nyth aderyn y canai) -
'Mwythau hael gan fam a thad
Wna aelwyd o adeilad.'
Pa ryfedd iddo ddewis emyn Thomas William, Bethesda'r Fro i'w chanu yn ei angladd, hoff emyn ei dad, ac yr oedd yntau wedi gweld y ffynnon y cyfeirir ati -
'Y Gwr wrth ffynnon Jacob'.
Darllenwch y bennod 'Fy Mam' yn ei lyfr ac fe welwch yr hyn sy y tu 么l i'r cywydd byr yma o'i waith yn un o gyfrolau Talwrn y Beirdd -
Trysor
(Gwraig Ty Capel)
Yn dy gapel ni welwyd
Na gwyfyn na llychyn llwyd,
'Morol am wres a golau
Er na ddoi 'mond 'r 'un neu ddau', A rhoi stamp diymffrost waith
Ar sglein y brasus glanwaith;
Er goddef prinder hefyd
'Roedd dy groeso'n wrjo o hyd
I dyst y newyddion da
I'w adfer wedi'r oedfa.
Buost Fair i'r Gair gyhyd,
A'th ofal - Martha hefyd.
Roedd dwyster yn ei gymeriad ddigon, yn guddiedig gan y bwrlwm o ddireidi a ffraethineb, a'r dynwared medrus ond di-falais. Cofiaf iddo ddweud wrth basio arwydd ffordd sy'n dangos llun buwch un tro, 'Lle un fuwch yw Llanfechell!' A beth am y parodi yma i Gynghorwyr! -
Yn y Gadair (yn cysgu)
('Llyn y Gadair' T. H. P. W.)
Ni w锚l yr hen gadeirydd mo'no bron
Wrth edrych dros ei sbectol tua'r cefn;
Mae mwy i'w blesio yn wynebau llon
Cynghorwyr effro sydd yn plygu i'w drefn
Nag yn y cysgwr unig sgytia'r lle
A'i chwyrnu croch yn awr ac yn y man,
Fel 'r Irish Mail yn mynd drw Santa Fe,
Nes bod y lleill yn methu 芒 chymryd rhan.
Ond mae rhyw gythreuligrwydd ynof fi
Sy'n gwneuthur gweld ei antics i mi'n gr锚t,
Er nad oes fawr o urddas, ylwch chi,
Mewn dyn fel sach o datws yn ei s锚t;
Dim byd ond cownslar 芒 diddordeb brau
Yn gegrwth, a'i ddau lygad wedi cau.
Ond roedd Dic yn hen ben, ac yn ddyn craff iawn. Cofiaf i ni ein dau rannu profiad sy'n brofiad i lawer rwy'n siwr. Roedd ef a minnau wedi darllen llyfr, gwahanol i'n gilydd, oedd wedi mynd a'n bryd yn llwyr a'n dau wedi ymgolli ynddo. Roedden ni'n dau yn trafod y profiad o wacter mawr a rhyw syniad o golled anesmwyth sy'n dilyn darllen mor ymroddedig. Pe buasai garcharor o Almaenwr Felix Brahm, yn yr Aifft. Cofiaf pan oeddem fel teulu ar ein yn Lucerne gyda Dic a Glenys, fel y daeth ei Almaeneg ef a fy a'm Ffrangeg innau yn hwylus ambell waith.
Cefais ei gymdeithas mewn tri chylch yn arbennig, sef cylch y Capel; cylch Cymdeithas y Ford Gron, Amlwch a'r Cyffiniau; a Thalwrn y Beirdd, er v gallwn ychwanegu Dosbarth W. E. A. Llanfechell, lle bu yn ysgrifennydd ffyddlon am flynyddoedd gan iddo fy ngwadd i 'gymryd' rhai nosweithiau o'r dosbarth eleni. Wrth drafod barddoniaeth a hanes y diwylliant Cymraeg roedd ei sylwadau yn wastad naill ai'n ffraeth neu yn graff.
Bu'n hogyn capel erioed, a bu'n ffyddlon i'w Ebenezer, Llanfechell ar hyd y blynyddoedd. Ni pharodd llwyddiant y byd hwn iddo laesu dwylo. Cofiaf ei weld ar ben yst么l yn trwsio chwarel ffenest y capel fel pe'n anwylo'r ffabric. Roedd ei bregethu of ei hun yn felys a gafaelgar; yr oedd yn gyfathrebwr medrus. Roedd ganddo hefyd gasgliad helaeth o ddywediadau bachog cewri'r pulpud ar ei gof. Roedd o bob amser y math o wrandawr a oedd yn helpu unrhyw draddodwr a ddeuai i Ebenezer ar ei dro.
Ar 么l dyddiau Mr Percy Ogwen Jones, Richard Jones oedd penadur Cymdeithas y Ford Gron, Amlwch. Un gair a all ddisgrifio ei ddawn yn cyflawni'r dasg honno - meistrolgar! Cofia llu o l锚n-garwyr y cylchoedd, yn ogystal a'r aelodau, am ei ddawn ddihafal - ei addasrwydd perffaith yn asbri heintus a'i ffraethineb afieithus wrth gyflwyno'r siaradwr gwadd yng nghinio Gwyl Dewi Ford - ac y mae'r cyfan wedi tewi!
Cefais tua deuddeng mlynedd a mwy o fod yn gyd-aelod ag ef yn nh卯m Talwrn y Beirdd. Buom yn y ffeinal lawer tro, ac ennill y bencampwriaeth ddwywaith, a golygai hynny grwydro Cymru yn o helaeth o gofio am y gyfres radio a'r ddwy gyfres deledu (gan ennill y powliau grisial ar un o'r rheiny hefyd).
Cofia gwragedd rhai ohonom am y cyfarfodydd ar aelwydydd ein gilydd wrth baratoi'r tasgau, fel y byddai naill ai distawrwydd llethol a myfyrgar, neu sacheidiau o chwerthin ffrwydrol yn dod o'r rwm bella' yn of y dasg dan sylw. Un Nadolig rhwng Gwyl Sant Steffan a'r Calan, a'r t卯m wedi methu cael syniad am englyn, ymlafniodd Dic a minnau yn galed i lunio rhyw fath o gynnig a methu. Yn y diwedd rhoesom wrth ei gilydd englyn am fethu gwneud englyn.
Nefoedd! Mae hiraeth yn beth llym! Bellach mae'r bwrlwm bywyd yn fud! Ond fe fu byw ei fywyd i'r eithaf. Cyfoethogodd fro, a Sir a mwy. Gadawodd lu o gyfeillion a lle cynnes yn eu mynwes iddo.
Ni allaf ond dyfynnu ei gyfaill Mr Geraint Percy Jones yn dyfynnu'r bardd Gwyn Thomas 'Y byw'n gadael ei 么l ar y byw .......
Ai fyw o sy'n marcio'r lle hwn.'
Mentraf innau ychwanegu hyn o fyfyrdod
Er cof am Richard Jones, 'Dic Ty Capel'
Hwn fel y garreg lonydd
Welodd Yates dan haul ei ddydd,
Ynghanol dreol rus
Ynni'r afon ymrwyfus.
Un yn bod i drwblo'r byw,
Un mud fu'n fwrlwm ydyw;
A fu mor fyw-un mor fud
Sy yma, un disymud.
Un nad yw'n fod, ond a fu! - I'w honni
Mae ynom anallu!
Y Rhaid na fynnwn gredu;
Rhaid ei fod yn dod i'w dy!
Ewch i F么n, ni chewch ei fan, - na'i osgo,
Na'i gysgod yn unman;
Allor a Chyngor ni ch芒n'
Ei gynnwys - mae dan gaenan!
Gofod a fu yn gyfa' - ohono,
A lenwid 芒'i eiria',
Y Dic oedd yn gwmni da
Y dim' nad yw'n mynd o'ma!
Cilio ni wnaiff o'n calon, - hwn a ddaw
Yn ddawn o atgofion,
Ac er y mynd, ceir ym M么nEi 么l hyd yr ymylon!
Glyndwr Thomas