Addysgwyd John Eilian yn Ysgol Penysarn, Ysgol Ramadeg Llangefni, Coleg Prifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Bu'n gweithio yn Llundain a thramor fel newyddiadurwr. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1947 a'r Goron yn Eisteddfod 1949. Bu'n olygydd y Ford Gron a phapurau niferus yr Herald am flynyddoedd lawer. Bu'n ymgeisydd y Blaid Geidwadol amryw o weithiau dros Ynys M么n gan gynnal dros 11,000 o bleidleisiau. Byddai John Eilian wedi cipio sedd Ynys M么n i'r Tor茂aid yn y 1970au oni bai fod f么t bersonol i Cledwyn Hughes.
|