Pwrpas y
fenter trwy 19 o
wahanol wledydd yw casglu arian i gefnogi
elusen Solar Aid yn
Affrica.
Mae'r elusen yma yn datblygu systemau i ddefnyddio pŵer yr haul i gynhyrchu trydan.
Gobeithia Gwyn a'i ddau gyd-deithiwr
orffen y siwrnai mewn rhyw ddeng mis, a byddant yn
ddiolchgar o unrhyw gyfraniad.
Defnyddir yr arian i
gychwyn gwahanol fan gwmnïau i helpu'r trigolion.
Yn ystod
oriau'r dydd y cynhyrchir y trydan, ac yna bydd yn cael ei
gadw mewn batris a'i ddefnyddio unrhyw amser.
Mae'n
bosib defnyddio'r trydan i wahanol amcanion fel pwmpio
dŵr a chreu golau i'r plant gael addysg gyda'r nos, ar ôl
gweithio ar y tir yn ystod y dydd.
Hefyd i weithio ffonau
symudol a chyfrifiaduron yn ogystal a chreu oergelloedd i
wahanol frechau a datrys rhai o broblemau iechyd y cyfandir.
Felly mae'r manteision i'r cyhoedd yn ddiderfyn.
Roedd paratoadau enfawr ymlaen cyn dechrau'r daith, yn
arbennig trosglwyddo holl eitemau trydanol y cerbyd i
weithio gyda ynni'r haul.
Byddant hefyd yn coginio a berwi
dŵr gan ddefnyddio nerth yr haul, ac yn dangos bod y system
yma o gynhyrchu trydan yn gweithio.
Felly dyma'r dyfodol i
Affrica.
Efallai bod rhai o ddarllenwyr Yr Arwydd yn ardal Cerrigmân yn cofio Gwyn yn gyson ar gefn ei feic pan yn aros
gyda taid a nain yn TÅ· Refail.
John Roberts
|