Mae'r misoedd mor brysur y
dyddiau hyn fel bod yr amser yn brysur diflannu ac mi fydd hi'n
Nadolig cyn i ni droi. Cafwyd Gwasanaeth y Cofio yma yn y
Pentref. Hwn oedd y tro cyntaf am wn i, i drigolion y pentref
ymgynnull o flaen y Maes Coffa, ynghyd a phlant y pentref.
Cawsom wasanaeth cofiadwy gan y Canon Geraint Edwards a
gyda chynulleidfa dda yn bresennol.
Buom mewn Sioe Gemeg yn y Wylfa a drefnwyd gan Gyrfa
Cymru - sioe yn llawn bangs a pops uchel dros ben oedd hon
gyda'r bwriad o ddangos i blant pa mor ddiddorol y gall
gwyddoniaeth fod. Mae'n debyg iddynt lwyddo'n hawdd, gan i'r
plant wirioni clywed a gweld yr holl ffrwydriadau! Mae gwersi
beicio wedi dechrau yn yr ysgol y tymor hwn. Mae plant Bl 5 a
6 yn cael cyfle i ddod yn hyddysg mewn diogelwch y ffordd.
Mae cyfres o 6 gwers dros y tymor, pob un yn canolbwyntio ar
wahanol agweddau o farchogaeth beic yn ddiogel.
Yn olaf cafodd y plant yr Adran Iau gyfle i fynd i Tesco Bangor ar ymweliad. Y tymor hwn rydym yn dilyn thema Taith y
Fanana, o'i chychwyn yn y trofannau i gownter siop. Yn sgil y
gwaith hwn, roedd yn bwysig bod y plant yn cael cyfle i weld sut
roedd y ffrwyth yn cyrraedd pen ei thaith. Roedd Tesco wedi
darparu yn ardderchog ar ein cyfer - gyda gwledd o ffrwythau a
fideos yn egluro'r broses. Yn ogystal a bananas rydym hefyd yn
astudio creu a chrasu bara. Cyn i'r plant greu eu bara eu hunain,
roeddynt yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt weld sut mae
cwmnïau mawr megis Tesco yn creu bara. Felly cawsant fod yn
bobyddion, a dysgu'r broses o wneud bara go iawn. Ew am hwyl.
Tan tro nesaf - hwyl!
|