´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Bryn Ddrain O Fryn y Drain i Fryniau Casia
Mehefin 2007
Diddordeb mawr i mi oedd yr hanes am y bwthyn yng nghanol Ynys Môn, sef Bryn Drain, Llandrygarn.
Mynegodd Cadeirydd Papur Bro Y Rhwyd, Y Parchedig Edgar Jones, mai ffrwyth gwybodaeth ddiddorol Mr Emrys Parry, Rhosyrolion, Llanfaethlu gynhwysid ganddo bron bob mis.

Mewn tafliad carreg i adeilad lle y cynhaliwyd un o Ysgolion Cylchol Griffith Jones, Llanddowror, sef Ysgoldy Bach, y'm ganwyd fy hun.

Yn fy mhlentyndod fe gyfeirir at yr ysgol fel 'Sgoldy'r Eglwys'. Roedd llawer o bethau yn cael eu cynnal yno yn y cyfnod hwnnw ac ymlaen i'r pumdegau o'r ganrif ddiwethaf.

Pan yn blentyn, bu fy nhad yn ddisgybl yn yr ysgol hon, a'i rieni yn talu ceiniog y dydd am y gwersi. Fe'm bedyddiwyd gan berson y plwyf, a'n blentyn bu i mi ymroi i Wasanaethau'r Plant 'Sgoldy'r Eglwys'. Er fy mod mewn cysylltiad agos yno, yng Nghapel Seion y Presbyteriaid fu fy meithrinfa i oedran fy nerbyn.

Capel gwyngalchog oedd yn flaenorol - fe'i hagorwyd yn swyddogol gan neb llai na'r enwog Barchedig 'John Elias o Fan' - er ei fod yn wreiddiol yn frodor o Bentre Uchaf yn ardal wladaidd LlÅ·n.

Un ydoedd, fel minnau, ar y dechrau'n gysylltiedig a'r Fam Eglwys fel ei rieni. Yn ei arddegau cynnar, cymhellwyd yr ieuanc John Elias gan ei daid i ymuno a Chapel y Presbyteriaid ym Mhentre Uchaf.

Yn y nawdegau o'r ganrif diwethaf dathlwyd canrif y capel presennol, nad yw nepell o safle y capel y codwyd John Elias i'r 'Barchus arswydus Swydd'. Chwaer eglwys yw'r capel hwn i Gapel Isa ym Mhentre Nefyn.

Bryn Drain

Mae yma gysylltiad amgenach na sydd weledig i'r llygad a Chapel Seion a'r bwthyn hwn.

Tua'r un adeg ag adeiladwyd y capel, fe brynwyd Bryn Drain (yn ogystal â'r llain enfawr o'i flaen a wynebir i'r Dwyran) gan ewythr fy nhad, y Capten John Rowlands, fferm yr Henblas, Llandrygarn.

Fe iddo adnewyddu y bwthyn o'i gyflwr truenus a ddangosir yn rhifyn Y Rhwyd, Mawrth 2007. Wedi marw'r Capten trosglwyddwyd Bryn Drain fel rhodd i'r achos Capel Seion gan ei ferch, Mrs Annie Hughes-Parry. Efallai fod hyn yn drefniant o dan ewyllys ei thad.

Fel llawer o gwplau ieuanc, cynt a wedyn, Bryn Drain oedd cartref cyntaf fy chwaer, Margaret Ann a'i phriod, William Edward Jones.

Bu'm chwaer yn frwdfrydig yng ngweithgareddau'r Ysgol Sul yn Seion, arholiadau'r Dosbarth Sirol, ym myd y ddrama, y Gylchwyl, Gymanfa a'r parti adrodd.

Yn nhreiglad amser, fe fu llawer o welliannau i'w gwneud i'r bwthyn ac o'i gylch. Erbyn heddiw gellir dweud ei fod o safon arbennig, ac yn weddus iawn wrth ochr y capel a barodd i werthiant Bryn Drain fod o gymorth ariannol i dacluso'r angen dybryd, y capel a' r festri.

Carwn gredu y bu i Thomas Jerman Jones deimlo cyffyrddiad ei alwad fel minnau yn ei blentyndod yn Seion a bod yr ymroddiad wedi deillio o hynny.

Bum innau hefyd yn was yn Felin Newydd (1947-58). Tybiaf y galwyd y fferm yn Felin Newydd pan adeiladwyd y felin wynt i gymryd lle yr hen felin ddŵr sydd eisoes wedi diflannu. Diolch i'r brawd Emrys Parry am agoriad i'r pwnc a hefyd i'r Parchedig Edgar Jones am y cyfle i ymateb.

Alun Lloyd Rowlands, Bangor


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý