Gyda rhifyn mis Rhagfyr, mi fydda i'n rhoi heibio fy meiro goch a rhoi'r gorau iddi i ddarllen proflenni Yr Arwydd. Efallai fod yna rai ohonoch chi dan yr argraff fod darllen proflenni papur bro yn hen orchwyl diflas a bod cribinio trwy hynt a helynt ardaloedd cylch Bodafon yn chwilio am wallau yn dasg anniddorol dros ben. Sgersli bilif! Mae'r m芒n lithriadau wedi rhoi modd i fyw i mi dros y blynyddoedd a rhoi homar o w锚n ar fy wyneb i hefyd. Y gwirionedd ydi, mae hi mor hawdd i'r cysodydd ei methu hi ac mi ryfeddech chi gymaint o wahaniaeth mae hepgor un llythyren fach yn gallu ei wneud.Er enghraifft, dyma oedd ym mhroflenni fis Medi eleni o dan Cemaes
"Braf oedd cael croesawu llu o gyfeillion Moreia a chyn-aelodau yn cynnwys setiad o deulu Buarth y Foel gynt...Pob clod i deulu' Moreia am fwydro i weld cyrraedd can mlynedd a boed llwyddiant i'r Eglwys yn y dyfodol."
Brwydro' wna teulu Moreia, wrth gwrs, nid mwydro'. A beth am hwn 'ta ym mis Mehefin 1998 pan fu Cyngor Cymuned Llanfechell yn cwrdd un noson :
"Trafodwyd problemau ffydd yn yr ardal."
Ew, dyna i chi bobl agos at eu lle ydi Cynghorwyr Llan - yn pryderu am eneidiau eu trigolion... hyd nes i chi sylweddoli mai problemau ffyrdd' oedd ar yr Agenda mewn gwirionedd! Yna, mi ymddangosodd hyn yn rhifyn Ebrill y llynedd
"Yr hyn sydd yn taro dyn yw yr ysgrifen gywrain oedd gan bawb a'r gofal mawr a gymerid gyda phob llwyth o wellt a nwydau eraill."
Nwyddau', tybed?
Mi fyddai pobol Penysarn (a gwraig fy hen athro Ffrangeg yn Ysgol Amlwch) yn filain iawn petawn i heb weld y camgymeriad nesaf yma
"Y wraig wadd oedd Mrs Myra Jones, Benllech, neu Myra Pencroesa i ni yn y Sarn. Soniodd am Benysarn pan oedd hi yn eneth ysgol a phawb yn rhoi ei bwt i mewn efo hen atgofion melyn."
Go brin mai codi'r felan ar bobl oedd y nod!
Dyma un bach digrif arall y sylwais i arno'n gynharach eleni
"Y wraig wadd oedd Mr Lilian Hughes, Amlwch."
Yn amlwg, y mae colli'r llythyren s' yn ddigon i roi 'secs chenj' i chi! Ac mae yna bethau rhyfedd yn gallu digwydd wrth i chi drawsnewid llythrennau
"Llongyfarchwn Batri Glesni a'u cyfeilydd, Mrs Glenys Ann Roberts ar eu cyfraniad i Sasiwn Chwiorydd y Gogledd ym Mhorthaethwy yn ddiweddar."
Pan ymddangosodd y nesaf yma, mi fues fn crafu fy mhen am yn hir cyn sylweddoli beth yn union oedd o'i le,
"Ar osod: Ty Capel Bethel, Maes y Llan, Bodwrog. Am fwy o fanylion a theledu, cysylltwch a'r Ysgrifennydd."
Beth gebyst oedd arwyddocad set deledu wrth geisio gosod Ty Capel, meddech chi? Dim oll, wrth gwrs, achos "am fwy o fanylion a thelerau" oedd y geiriau cywir.
A beth am hwn?
"Maen dda gennym glywed ..? Go brin.
Mae peryg i mi swnio'n gyfoglyd o hunangyfiawn, ar draul cysodwyr cl锚n O. Jones. Llangefni. heblaw am y ffaith fy mod in methu gweld myrdd o gamgymeriadau eraill o fis i fis. Yn ddieithriad. pan fydd Yr Arwydd ei wely a'r hynaws Gwilym Hanes yn taro copi drwv'r llythyrau, mi fedrwch chi fod yn saff y bydd yna wall arall amlwg i'w weld yn berffaith blaen rywle neu'i gilydd.
Ond, diolch i'r drefn, mae Dewi Jones yn un parod ei faddeuant a chreadur meidrol ydw innau - meidrol darllenwr proflenni Beibl Saesneg 1631. Hanes trist ac ofnadwy sydd i'r darllenwr proflenni hwnnw a fethodd sylwi bod y gair not ar goll yn adnod 14, pennod 20 llyfr Exodus. Dyma'r adnod a ymddangosodd yn y Beibl hwnnw:
Thou shall commit adultery.
Am ei bechodau, mi gafodd y darllenwr proflenni grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru! A dweud y gwir, dyna pam rydw in rhoi'r gorau iddi i ddarllen proflenni - rhag ofn na fydd Golygydd nesaf Yr Arwydd mor drugarog 芒 Dewi Jones!
Ken Owen, Marian-glas