Fe'i disgrifiwyd gan yr RNLI fel un o'r gwasanaethau achub mwyaf arwrol yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Derbyniwyd neges o Bwynt Lynas bod llong mewn argyfwng tua thair milltir a hanner tu draw i'r goleudy. Pan lansiwyd y Bad Achub tua 3 o'r gloch y prynhawn roedd tymestl enbyd yn ei hanterth. Capten William Roberts, yr ail gocsyn a gymerodd yr awenau, gyda chefnogaeth y g诺r hynod brofiadol Capten Owen Jones.
Ymhen hir a hwyr daethant o hyd i'r Excel. Roedd hi mewn cyflwr truenus, mewn perygl o suddo'n ddisymwth gan ei bod o dan dd诺r yn barod.
Yn dilyn cyngor Owen Jones penderfynodd y cocsyn gymryd y siawns o fynd a'r
Bad Achub yn ei lawn hwyliau, dros yr Excel. Bu'r fenter arwrol yn llwyddiannus. Fel yr hyrddiwyd y cwch achub dros ddec yr Excel gan y mor stormus cipiwyd y tri morwr
a oedd yn gafael yn dynn yn rhaffau'r llong a'u rhoi'n ddiogel ar y Bad Achub, cyn i'r Excel suddo.
Yn y broses, difrodwyd y Bad Achub yn ddrwg, ac yn fuan wedyn rhwygwyd ei hwyl flaenaf yn garpiau.
Oherwydd grym y corwynt roedd yn amhosibl dychwelyd i Foelfre, felly fe'u gorfodwyd i droi yn eu hunfan gan ddibynnu ar ddal gafael am eu bywyd yn eu rhaffau diogelwch. Roedd y cwch achub yn llawn o dd诺r. A'r criw ynddo y rhan fwyaf o'r amser. Nid hwylio ar y m么r yr oeddynt ond drwyddo.
Am 2 o'r gloch y bore, cyraeddasant Ynys Seiriol, a'r unig ddewis oedd yn agored iddynt oedd cysgodi rhag y corwynt ym Mhenmon.
Ar y lan, roedd anesmwythyd mawr am nad oedd y
cwch achub wedi dychwelyd ond ni fedrodd cwch achub
Biwmares, er fod ganddo injan, fynd allan i'w dynnu i
fewn tan y bore canlynol. Roeddent wedi bod allan ar y
m么r am ddwy awr ar bymtheg, ac arhosadd y cocsyn
William Roberts wrth y llyw drwy gydol yr amser. Am
sawl diwrnod wedyn roedd yn hollol ddall oherwydd yr
halen, y gwynt a'r straen. Roedd y criw i gyd wedi yml芒dd
ar 么l eu brwydr enbydus a hir.
Dyfarnwyd gwobr uchaf yr RNLI y Fedal Aur i'r cocsyn William Roberts ac i Capten Owen Jones am eu gorchest arwrol. Rhoddwyd Medalau Efydd i weddill y criw, ac i weddw'r William Roberts a fu farw'n y drychineb.
Gwasanaethodd y mwyafrif o'r criw dewr y cwch achub
am beth amser wedi hynny. Enillodd Hugh Owen ddwy
Fedal Efydd ychwanegol yn ddiweddarach, un ohonynt
am ei ran yn achub yr Hindlea yn 1959.
Raedd y William Roberts a fu farw yn hen daid i Mrs Else Raberts a'i brawd William Raberts, Morannedd a fu'n gocsyn ei hun am flynyddoedd. Roedd yn hen daid hefyd i Mrs Linda Thamas, Benllech ac i Helen ac Eleri
Treflys gynt, sy'n byw ar hyn o bryd yn y De.