Mae'r adeilad ar restr adeiladau cofrestredig sy'n
golygu amodau i'w cadw wrth ystyried ei adnewyddu. Amcan y
gost adnewyddu yw £1.2 miliwn ond mae brwdfrydedd mawr i
fynd ymlaen a'r gwaith.
Mae'r Swyddogion yn hyderus y daw cyfraniadau sylweddol o arian o Gronfa CADW ae o Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Os digwydd hynny yna rhagwelir rhagor o grantiau llai gan
Gynghorau, elusennau eraill, ymgyrchoedd codi arian a
rhoddion gan unigolion.
Unwaith y bydd yr arian wedi ei sicrhau rhagwelir gwaith trin am tua 12 mis a'r gobaith yw cael y cyfan wedi ei adnewyddu
erbyn 2010.
Cyd-gysylltydd y prosiect yw Christopher Thomas
a gellir cysylltu ar y We: ChristopherThomas 154@BTintemet
.com. Hefyd mae John Langley, Y Bryn, Llanfechell yn barod
iawn i drafod unrhyw sylwadau.
Dyma fraslun o hanes yr eglwys
Cafodd yr eglwys ei chynllunio gan un o'r Eidal, Signor G.
Rinvolucri a oedd yn byw yng Nghonwy. Gŵr o'r Rhyl,
Mr Perey Iball oedd yn arolygu'r gwaith adeiladu i gwmni John Mayers, Canal Street, Gaer. Cwmni ddaeth i ben yn 1942.
At ddechrau 1935 roedd rhan isaf yr eglwys wedi ei osod
mewn carreg gan weithiwr lleol, Mr Roberts, a oedd yn rhedeg
busnes gyda'r saer coed, Mr Williams. Roedd gweithdy bychan
ganddynt ger Swyddfa'r Post.
Gwaith cyntaf Perey Iball oedd cyflogi gweithwyr lleol ar dâl
o swllt yr awr. Nid gwaith hawdd oedd codi fframiau yr adeilad
anghyffredin.
Un o'r problemau mwyaf wrth adeiladu oedd y gwyntoedd
cryfion. Sawl gwaith gorfu i Perey Iball alw ei gydweithwyr yng
nghanol y nos i roi rhaffau ychwanegol i ddal y gwaith pan oedd
y gwynt ar ei anterth.
Cerrig lleol a ddefnyddiwyd a chludwyd hwy i'r safle gyda
throl a cheffyl ac roedd digon o ddŵr i'w gael mewn ffynnon
gyfagos. Daeth y trawstiau dur a'r dur i gryfhau y gwaith conerit
gyda'r rheilffordd i Stesion Amlwch a daeth deunydd i wneud y
eonerit o chwarel ithfaen Penmaenmawr.
Mae ffenestri'r to yn ddwy fodfedd o drwch ac wedi eu gwneud yn Ffrainc.
Nodwedd o'r eglwys yw'r groes fawr chwe troedfedd o uchder
sydd ar frig yr eglwys. Cafodd y groes ei ffurfio ar y llawr gan ei
chodi i'w lle gyda blocyn a rhaff. Gwnaed y ffenestr serenog metal gan gwmni o Gaer.
Y gred yw fod yr eglwys ar ffurf llong ar ei phen i waered
gyda'r ffenestri erynion o amgylch rhan isaf yr adeilad yn
cynrychioli ffenestri llong.
Cafodd yr eglwys ei chysegru yn 1937 gan yr Archesgob
McGrath ac ar dalcen blaen yr eglwys roedd ysgrifen 'Nodda ni
Seren y Môr'. Yn anffodus cafodd yr ysgrif yma ei guddio pan wnaed gwaith adnewyddu yn ddiweddarach.
Bellach mae 70 mlynedd wedi mynd heibio a'r tywydd wedi
gadael ei ôl ar y dur a'r gwaith concrit a dyna paham mae'r gost
enfawr yn gwynebu cefnogwyr yr eglwys. Da nodi fod awydd a
brwdfrydedd i wneud y gwaith.
O.N. Balch fyddem o gynnwys hanesion/lluniau o'r adeiladu yn Yr Arwydd.