大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Arwydd
Safle Palas y Tylwyth Teg (neu Cartre'r Peilon fel y mae heddiw). Pen yr Orsedd yw'r fferm. T欧 newydd (Bwthyn Daisey), lle y dychmygwn yr oedd Rhyd Lasgrug, Glasgraig Fawr ar y chwith, Llyn Alaw yn y cefndir. Stori Dylwyth Teg o Rosybol
"Dwi'n coelio dim ar y diawl. Cena' c'lwyddog fuo fo erioed". "Ewadd, ti'n meddwl?" "Wel mi fuo ni trwy bob gwrych a nant heddiw heb weld s么n o'r hen Wilias. All o ddim diflannu oddi ar wynab y ddaear siwr".
Cymrodd Iwnc o'i gwrw, yn amlwg yn teimlo'i fod wedi setlo'r ddadl. "Ond mae Robat yn taeru'i fod wedi mynd yn syth yn 么l at Rhyd Lasgrug pan ruthrodd y ceffyl heibio, ac na doedd 'na ddim golwg o Wilias yn unlle".

Roedd ei gyfaill yn anfodlon i feddwl y gwaetha'. "Mewn difri' calon, ydi Robat yn disgwyl i ni gredu mai'r tylwyth teg aeth a fo?" Chwarddodd pawb. "Ffraeo wnaethon nhw debyg ar 么l cael peint neu ddau yn ormod yn farchnad Llan." Edrychodd ar ei gilydd. "Be ti'n awgrymu? Mai fo laddodd Wilias?"

Doedd yr un o'r criw wedi sylwi ar Robat T欧n Llan yn dod i mewn. Trodd hwnnw ar ei sawdl a cherdded allan i'r gwyll.

Sylwodd Robat ddim ble roedd o'n cerdded bron a sgwrs y dafarn fel t么n gron yn ei feddwl. Yn sydyn, bwriodd i mewn i hen 诺r 芒 gwallt a locsyn claerwyn, a sylweddolodd ei fod yng nghanol y goedwig. Er ei waethaf cafodd ei hun yn adrodd hanes ei drafferthion, wedi i'r dyn holi'n gwrtais. "Peidiwch 芒 phoeni", cysurodd hwnnw. "Ewch i ben Gorsedd Lasgrug am hanner nos, nos lau ac mi welwch blasdy. Curwch y drws ac mi gewch hyd i'ch ffrind y tu mewn. Daliwch eich gafael ynddo ac mi ddowch ag o adre'n ddiogel". Rhoddodd w锚n radlon ac aeth ar ei ffordd.

Erbyn nos Iau roedd Robat druan yn gweld cysgodion a chlywed sibrydion o gwmpas pob cornel. Oedd pwrpas gwrando ar yr hen 诺r? Oedd o wedi'i weld o gwbl mewn gwirionedd? Ond penderfynodd fynd. Wedi'r cwbl, beth oedd ganddo i'w golli?

Ac yn wir i chi, dyna lle oedd y plasty, a golau a sain cerddoriaeth yn llifo allan i'r nos. Wedi curo'r drws, cafodd Robat ei arwain i mewn i'r Neuadd wychaf a welodd erioed. Roedd yna gerddorion, a thyrfa'n chwerthin a dawnsio'n ysgafndroed, gan wau trwy'i gilydd fel gl枚ynnod byw. Pob un yn ifanc a hardd, eu gwisgoedd yn ddrud a blodau yn eu gwalltiau oedd yn llenwi'r Neuadd ag orogl hyfryd. Toc canwyd cloch, ac aeth pawb i Neuadd arall ble'r oedd byrddau wedi'u gosod 芒 gwledd ddigon i dynnu 诺wr o'ch dannedd. Syllai Robat yn syn a'i geg yn agor, heb yngan gair. Yna pwy welodd yn cerdded heibio dan gario dysgl ffrwythau, fel petai'n byw yno erioed ond Wilias. Y Wilias roedd y pentref i gyd yn meddwl iddo'i lofruddio ar y ffordd adref o farchnad Llannerch-y-medd! Cofiodd am gyngor yr hen 诺r a daeth ato'i hun mewn chwinciad. Neidiodd am Wilias. Gwingodd hwnnw fel peth gwallgof a disgynnodd y ddau i'r lIawr. Ac fel tarth yn haul y bore, diflannodd y plasty a phopeth oedd ynddo gan adael y ddau gyfaill yn cicio a rhegi yn y mwd.

Bu antur y ddau gyfaill yn destun sgwrs am flynyddoedd ac os codai unrhyw un amheuon roedd Wilias wrth ei fodd yn dangos y ddysgl ffrwyth fel prawf o'r hanes.

Seiliwyd yr uchod ar stori mewn lIawysgrif sy'n dwyn y teitl gwych 'Pastai i'r sawl a'i Profo'. Fe'i ysgrifennwyd gan William Williams, Llandyg谩i yn 1800 ond ni 诺yr neb beth yw oedd y stori wreiddiol. Fe'i hailadroddwyd gan Dafydd Glyn Jones, Bangor, mewn erthygl yn Nhrafodion Hynafiaethwyr M么n yn 1995.

Yn 么l William Williams fe gadwyd dysgl y tylwyth teg yn y Caerau, Llanfairynghornwy, am flynyddoedd. Erbyn heddiw 'Glasgraig' yw'r enw a ddefnyddir ar y ffermydd cyfagos. Yn rhyfedd iawn, mae yna draddodiad lIeol o fwgan yn Nh欧 Newydd, hen d欧 sydd wedi ei leoli yn agos i safle tebygol Rhyd Glasgrug. Mae gwraig bresennol y t欧 - Bwthyn Daisy erbyn hyn - yn tystio i bresenoldeb ysbryd yn rhan hynaf yr adeilad.

Hoffai Dafydd Glyn Jones gael mwy o wybodaeth am leoliad stori arall debyg. Os gwyddoch am Gors yr Eira (ar y ffordd i Lannerch-y-medd) ac am Ryd Mari Benwen rhowch wybod i'r Arwydd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanrug):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy