Mae hon yn gystadleuaeth ryngwladol sy'n cael ei chynnal yn Iwerddon bob blwyddyn a bydd y Feile Filiochta yn gwobrwyo enillwyr mewn deg iaith. Eleni daeth dros 4,000 o gynigion i law.
Ysgrifennodd Si芒n am ferch mewn cyflwr manig wedi dringo Pont y Borth, yn sg卯l darllen am yr anhwylder wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer nofel.
Ym mis Ebrill bydd yn teithio i Iwerddon i seremoni wobrwyo lle bydd yn darllen ei cherdd fuddugol a chasglu gwobr ariannol o 1,000 euro.
Ar hyn o bryd, mae Si芒n yn astudio'n rhan amser ar gyfer PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol ym Mangor, sy'n gryn newid byd ar 么l ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg.
Wedi cyfnodau gyda'r 大象传媒 yn cynhyrchu rhaglenni i Radio Cymru ac yna'n golygu gwersylfrau gwyddonol i CBAC yng Nghaerdydd. Dros ddeng mlynedd yn 么l dychwelodd y teulu i F么n, lle bu'n magu tri o blant, yn gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun a lle mae'n aelod o d卯m beirdd Bro Alaw.
Enillodd Si芒n Gadair Eisteddfod M么n yn y flwyddyn 2000, ac yna'r Goron a'r Tlws Rhyddiaith yn Eisteddfod M么n, Cylch y Garn yn 2005, yn ei milltir sgw芒r.
|