Dwy chwaer yn wreiddiol o'r Marian, sydd wedi anfon eu cynnyrch ar gyfer Yr Arwydd, a hynny ar anogaeth y beirniad, Mr Alan Wyn Roberts. Dyma rai o'r cynghorion: Casgliad Mrs Mair Williams, Eryl-y-don. Staen biro: Defnyddiwch ysbwng gyda methylated spirits a golchwch wedyn gyda dŵr oer. Gwaed: Mwydwch y dilledyn mewn dŵr a halen am 10 munud. Yna golchwch gyda dŵr oer. I lanhau papur wal: Torrwch grystyn oddi ar dorth ddau ddiwrnod oed a rhwbiwch y papur yn ofalus gyda strôc i lawr bob tro. Fel y bydd y dorth yn clirio'r llwch, torrwch sleisen arall o'r dorth. Crayon ar bapur wal: Pwyswch ddarn o fara gwyn ar y staen i sugno'r saim a'r lliw. Crayon ar bapur wal: Gellir defnyddio past dannedd gwyn i symud crayon oddi ar bapur wal golchadwy. Staen ffrwyth: Gorchuddiwch y staen gyda halen ar unwaith a mwydwch mewn llefrith cyn ei olchi. Staen glaswellt: Mwydwch mewn methylated spirits, gadewch iddo sychu ac wedyn golchwch ef. Saim ar ddilledyn: Gorchuddiwch gyda phapur brown a smwddiwch ef gyda haearn claear. Defnyddiwch nifer o bapurau glân nes bydd y saim i gyd wedi ei glirio. I lanhau metal: Rhwbiwch gyda lemon wedi ei sleisio, golchwch ef i ffwrdd ar unwaith a sychwch ef gyda chadach. I symud gwm cnoi: Rhowch y teclyn yn y rhewgell am chwarter awr ac fe ddaw'r gwm i ffwrdd yn hawdd iawn. Rhan o gasgliad Mrs Nans Williams Owen, Bodhunod, Amlwch (wedi eu dewis yn ôl mympwy'r golygydd) I gadw eich sbectol yn lân, golchwch hi mewn dŵr gyda diferyn o finegr ynddo a bydd y gwydrau yn sgleinio. I wneud i ffwrdd ag arogl cas mewn fflasg, rhowch fymryn o finegr yn y dŵr. Medrwch falu plisgyn ŵy a'i roi mewn dŵr a finegr mewn fflasg a'i ysgwyd yn dda ac fe ddaw'r staen i ffwrdd hefyd. Peidiwch â thaflu dŵr berwi wyau. Gellwch ei ddefnyddio i lanhau llwyau wyau neu os oes gennych chwyn yn yr ardd, mae'r dŵr yn ardderchog i'w lladd. Ond medrwch ei ddefnyddio fel tonic i blanhigion tŷ gan ei fod yn llawn mwyn! I gadw pryfed oddi ar y ffenestri, yn enwedig yn ystod yr Haf, sychwch y ffenestri efo lledr golchi gyda finegr wedi ei chwistrellu arno. Rhag i fara lwydo yn y bin bara, sychwch y bin efo cadach wedi ei ddipio mewn finegr. Mae halen yn cadw blodau yn fyw yn hirach os rhowch chi fymryn yn y dŵr glân bob tro y byddwch yn ei newid. Er mwyn i'r halen ddod allan o'r pot yn rhwydd, rhowch ychydig ronynnau o reis yn y pot. Rhowch lwmp o fenyn yn y sosban wrth ferwi llysiau ac ni wnânt ferwi drosodd. Rhowch lysiau gwyrdd mewn dŵr berwedig a'u cogonio'n gyflym, gyflym. Tatw newydd - dŵr berwedig. Hen datw - dŵr oer. Mae'r dail tu allan i'r letys yn llawn o fitaminau - mwy o lawer na dail y galon, felly ceisiwch ddefnyddio'r rhai y tu allan.
|