´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Arwydd
Scrwff yr hwyaden Ysgol Carreg Lefn
Mehefin 2005
Fel y gwelwch o'r lluniau mae'r cywion hwyaid wedi deor!!! Wel am hwyl a sbri. Mae'r plant wedi bod yn eu hastudio'n fanwl - yn edrych arnynt yn deor o'r wyau - a sut y maent yn bwydo, symud ac yfed.
Cafwyd hwyl go iawn wrth eu rhoi mewn baddon, ac edrych arnynt yn nofio!!! Mae'n rhaid dweud eu bod yn bethau del dros ben, ac mae'r rhieni a phawb wedi dod draw i'w gweld.

Daeth Mrs Gwyneth Jones a Mrs Linda Jones draw o'r Ysgol Uwchradd y mis hwn hefyd i gael sgwrs fach gyda phlant Bl 6. Mae 'na dipyn o gyffro yn eu mysg nawr fel y gallwch ddychmygu, eu hanner yn methu disgwyl a'r hanner arall yn teimlo'n eithaf nerfus.

Yn sgîl ein gwaith ar Lesotho yn yr ysgol y tymor hwn, rydym wedi bod yn dathlu dinasyddiaeth byd eang. Ar ein diwrnod arbennig roedd ambell blentyn yn gwisgo dillad traddodiadol Affricanaidd, tra bod pawb wedi cael cyfle i greu bisgedi arbennig siâp Affrica.

Mae popeth yn tyfu yn dda iawn yng ngardd yr ysgol. Mae'r tatws wedi torri drwodd, ac yn edrych yn well na rhai llynedd (os yw hynny yn bosib!!!) Mae'r holl ysgol yn rhan o'r gwaith y tymor hwn. Mae dosbarth Mrs Roberts wedi bod yn tyfu tomatos a chres. Byddant yn siŵr o fod yn flasus dros ben.

Rydym i gyd yn ymwybodol bod y Llywodraeth yn ein hannog i ddefnyddio llai ar ein ceir, i gerdded i'r gwaith, neu ddefnyddio bws. Wel beth am geffyl? Dyna mae un eneth fach o ddosbarth Mrs Roberts wedi penderfynu ei wneud. Fel gwelwch o'r llun mae Isabelle yn dod i'r ysgol ar gefn ei cheffyl newydd 'Little Em'.

Mae o'n geffyl del iawn hefyd, a hithau y gwisgo'n addas. Pwy a ŵyr cyn bo hir bydd pawb yn marchogaeth i'r ysgol a bydd yn rhaid adeiladu stabl ar y cae!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý