Yn ystod Nadolig 1916, 90 mlynedd yn 么l i eleni, roedd yn gwasanaethu yn ffosydd brwnt y Somme.
Derbyniodd Dafydd lythyr oddi wrth aelodau Capel Jerusalem, Blaenau Ffestiniog yn ei gyfarch dros 糯yl y Nadolig. Ar 么l ei ddarllen, rhoddodd y llythyr i'w ffrind Abraham Jones, milwr o Dan y Grisiau ger y Blaenau, oedd ar y ffordd i'r ffosydd ar y pryd.
Cadwodd Abraham Jones y llythyr yn ofalus yn ei boced frest. Yn anffodus fe'i saethwyd, ac aeth y bwled drwy'r llythyr hefyd.
Gadawodd Abraham lones weddw a phump o blant. Er i Dafydd Jones oroesi'r rhyfel, nis bu llewyrch arno, a bu farw yn 1933.
Cadwodd Dafydd Jones y llythyr ar 么l marwolaeth ei ffrind, ac mae ym meddiant teulu Mrs Morgan hyd heddiw, a'r tyllau bwled i'w gweld yn blaen ynddo.
|