Bachgen o Amlwch oedd Owen Griffiths a ddechreuodd weithio ym mecws Stryd Wesle, neu Becws yr Hen Het, pan yn 14 oed. Cario dwr oedd ei waith bryd hynny. Yn ddiweddarach fe aeth yn brentis o fecar gyda'r diweddar Richard Gussey ond fe dreuliodd nifer o flynyddoedd ar y m么r yn ystod y 1930au a thrwy'r Ail Ryfel Byd. Bu'n gweithio am gyfnod wedyn yn Tarvin ond yn 1953 fe ddychwelodd, gyda Bessie, ei wraig a'r plant, John, Margaret a Currie i Amlwch. Mentrodd brynu Becws Ben Pritchard yn Nhredath ac yno y bu'n cadw busnes tan 1969. Ar 么l prynu Siop y Paget fe gododd fecws newydd, modern a dechrau pobi yno yn Awst 1969. Cyd-ddigwyddiad rhyfedd oedd i Owen ac Elizabeth Griffiths o Amlwch ddod yn berchnogion ar siop a fu'n eiddo i Owen ac Elizabeth Griffiths arall am flynyddoedd cyn hynny. Daeth cryn lwyddiant i'r busnes gyda'r teulu i gyd yn cydweithio mewn gwahanol ffyrdd. Danfonwyd bara a chacennau ar draws Sir F么n ac ymhell i Sir Gaernarfon a rhaid dweud bod eu bara brith yn nodedig. Bu farw Owen Griffiths yn 1987, un mlynedd ar bymtheg ar 么l ei wraig, ond parhaodd y busnes o dan ofal John a Currie er gwaethaf cystadleuaeth gan y cwmn茂au mawrion sydd yn brysur lladd ein busnesau bach. Serch hynny, gwaeledd a ddaeth a'r gwaith i ben yn y diwedd, ac ar 31 Ionawr 2003 fe bobwyd y dorth olaf ym Mecws y Paget.
|