Ar yr ymyl gellir darllen - 'presented to Mr John Owen, Dwygir Farm, Amlwch, Anglesey, as breeder best beast in class 1858.
Mae fferm y Dwygir yn Rhosgoch ar gyrion Amlwch. Cafodd
adeiladau'r fferm ei dymchwel pan ddaeth cwmni Shel i'r ardal i godi
eu tanciau storio olew ar ddechrau'r 70au y ganrif ddiwethaf.
Yn 1793 sefydlwyd y Bwrdd Amaeth gan y Llywodraeth i geisio
gwella a datblygu amaethyddiaeth trwy'r wlad.
G诺r fu'n cynorthwyo gyda'r gwaith yma oedd y bardd Dafydd Thomas - Dafydd Ddu Eryri o Amlwch.
Dyfeisiwyd offer newydd a gwell ar gyfer trin y tir, plannu a chynaeafu cnydau. Peiriant newydd enwog iawn oedd y
Scotch Plough gyda gofaint fel John Evans, Maenaddfwyn, yn wneuthurwr lleol o'r aradr arbennig yma.
Dechreuwyd defnyddio gwrtaith cemegol, llawer o hwn yn cael ei gynhyrchu yng ngwaith Mills yn Amlwch.
Yn fferm Dwygir defnyddiwyd 'gwano' fel gwrtaith, cwmni Davies o Amlwch yn mewnforio'r gwrtaith.
Y teulu Owen oedd tenantiaid Dwygir a bridio gwartheg oedd prif ddiddordeb John y mab.
Roedd ffermio da yn sicrhau cyflenwad amrywiol o gnydau ac yn magu gwartheg ardderchog.
Perchenog y
Dwygir oedd William Owen Stanley ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Stanley ac yn Aelod Seneddol Ynys M么n.
Roedd yn ymwelydd aml a'r Dwygir gyda'i finteioedd saethu a rhaid oedd i'r teulu Owen baratoi gwledd arbennig ar eu cyfer.
Cymerai'r Arglwydd Stanley ddiddordeb yn y fferm a'r anifeiliaid ac awgrymodd y dylai John fynd ag un o'r bustych i'w arddangos yn Sioe Smithfie1d yn Llundain.
Roedd John tua 38 oed ar y pryd ond heb symud ryw lawer o'r ardal. Cytunodd i fynd a'r bustach 4 oed (short horn mae'n debyg) i'r daith bron 300 milltir i Smithfield.
Taith ar droed i John a'r bustach oedd hon, taith o tua 6 wythnos.
Cyn cychwyn rhaid oedd
mynd i Lannerch-y-medd i bedoli'r bustach a chafodd set sbar o
bedolau rhag ofn y byddai angen ail bedoli ar y ffordd.
Mae'n si诺r fod John wedi cymysgu a phorthmyn y cyfnod a arferai ddod i ffeiriau Llannerch-y medd i brynu gwartheg cyn eu cerdded i farchnadoedd a ffeiriau canolbarth Lloegr ac ymhellach.
Dilyn 么l troed y rhain a wnaeth John ar ei daith gan deithio tua 20 milltir y dydd gydag ysbeidiau i ddadflino.
Cai lety dros nos gyda theulu neu ffrindiau, ond wrth bellau o F么n rhaid oedd dibynnu ar y tai tafarnau niferus. Gwyddom iddo aros y noson gyntaf gydag aelod o'r teulu yn Lledwigan Llangefni, a'r ail noson ym Methesda cyn
dilyn ymlaen ar y 'Welsh Road' drwy Landegla i gyfeiriad Wrecsam
a Chroesoswallt cyn croesi'r ffin i'r Amwythig, heibio i Northampton
a Bedford a chyrraedd pen y daith yn Llundain.
Mae'n debyg i John a'r bustach gyrraedd Llundain ryw ddwy
wythnos cyn dyddiau'r Sioe a chafodd droi y bustach i gaeau un o
ffermwyr caredig ar gwr y ddinas er mwyn iddo adfer ei gyflwr a
'chodi ei fol'.
Mae cofnodion y Royal Smith field Club yn dangos 7-10 Rhagfyr
1858 - Class 25 bred by John Owen Dwygir Farm, AmlwchAnglesey,
fed on grass, hay, linseed cake, bean and barley meal '.
Ar 么l rowndiau cynnar y gystadleuaeth, cyrhaeddodd bustach John y
rownd derfynol gan ennill y wobr gyntaf yn ei adran.
Ar 么l y seremoni cafodd y bustach ei werthu am bris da a
chyrhaeddodd John yn 么l i F么n i ddathlu ei gamp nodedig gyda'i
deu1u yn Dwygir.
Diolch am y stori gan Mr John Owen, gor--wyr, cofnodion y Royal
Smithfield Club a chylchgrawn BYD rhif9.