Prynhawn dydd Sul, 13 Ebrill yng Nghapel Glasinfryn, Llanbedrgoch cynhaliwyd cyfarfod i ddiolch am weinidogaeth y Parchedig Trefor Lewis. Bu'n fugail ar yr eglwys ers tair blynedd a phedwar mis ond dechrau Mai eleni bydd yn cychwyn ar ei waith fel Warden Coleg Trefeca, sef canolfan hyfforddi lleygwyr Eglwys Bresbyteraidd Cymru a hen gartref y diwygiwr Howell Harris. Wrth ddod ynghyd i ddiolch am weinidogaeth y Parchedig Trefor Lewis yng Nglasinfryn roedd yr aelodau a chyfeillion yr achos yn ymwybodol iawn eu bod yn colli cyfaill a chyd-weithiwr. Talwyd teyrnged haeddiannol iddo gan Miss Jane Richards, blaenor a Thrysorydd yr eglwys, a chyfeiriodd nid yn unig at ei waith fel pregethwr ac arweinydd, ond hefyd at gefnogaeth ei briod, Mrs Miriam Lewis, i'r eglwys a'r ofalaeth. Cafwyd ei chwmni'n gyson yn yr oedfaon ac yng nghymdeithas y chwiorydd a bu gweinidogaeth y ddau ohonynt yn werthfawr a chyfoethog. Mynegwyd dymuniadau da'r eglwys a'r ardal hefyd drwy dyseb a gyflwynwyd i'r Parchedig Trefor Lewis gan Miss Jane Richards ynghyd 芒 thlws arian a gyflwynwyd i Mrs Lewis gan Mrs Linda Lloyd Owen, blaenor ac Ysgrifennydd yr eglwys. Cymerwyd rhan yn yr oedfa gan Barti Glesni a phlant yr Ysgol Sul, sef Dwynwen, Catrin, Manon, Sioned, Sara, Si芒n a Morgan. Cafodd y plant gyfle hefyd i fynegi eu diolchgarwch a'u dymuniadau da i Mr Lewis drwy ganu c芒n a gyfansoddwyd yn arbennig ganddynt ar gyfer yr achlysur. Yr organyddes oedd Mrs Glenys Ann Roberts a hi ynghyd 芒 Mrs Diana Roberts a fu'n hyfforddi'r plant. Wedi'r oedfa cynhaliwyd te yn yr ysgoldy gan y chwiorydd. Cyfrannodd amryw tuag at y lluniaeth a chafwyd gwledd i'w chofio. Fel arwydd arall o werthfawrogiad yr eglwys yr oedd Mrs Ann Jones wedi coginio teisen arbennig a'i haddurno'n gelfydd gyda Beibl a llyfr emynau ac arni'r geiriau 'Pob bendith i Trefor a Miriam'. Mynegodd y Parchedig Trefor Lewis ei werthfawrogiad o'r cyfarfod ac o gyfeillgarwch a chefnogaeth pobl Glasinfryn ac ardal Llanbedrgoch gan annog aelodau a chyfeillion yr achos i ddyfalbarhau mewn ffydd a theyrngarwch i'r achos.
|