Ac un o'r rhesymau dros lwyddiant y llong hon oedd y ffaith ei bod yn hawdd ei thrin a'i symud yn gyflym.Rhoddwyd y diolch am hyn yn rhannol i'r gorchudd o gopr oedd yn gwarchod ei gwaelod rhag y llyngyr môr oedd yn ei bwyta, a'r cregyn llong oedd yn tyfu arni ac yn ei harafu.
Mae perthynas agos iawn rhwng y gorchudd ar y Victory a'r ardal hon gan mai o byllau Thomas Williams, Parys a Mona y daeth y copr. Ac nid yn unig hynny, roedd y bolltau a oedd yn cysylltu'r haenen ar gorff pren y llong hefyd wedi'u gwneud o gopr o Gymru.
Ym 1761 dechreuodd y Llynges Frenhinol arbrofi trwy roi haenen gopr ar waelod ei llongau, a'r ffrigâd The Alarm oedd y gyntaf i gael ei thrin. Y syniad oedd i adeiladu haen ychwanegol ar du allan y rhannau hynny o'r llong oedd o dan y dŵr er mwyn eu gwarchod rhag ei difrodi a'u baeddu. Awgrymai'r profion cyntaf bod yr haenen gopr yn daclus iawn, a heb fod yn rhy drwm na'n rhy ddrud. Gan ei bod yn aros yn lân, roedd yn golygu y gallai llongau hwylio'n gyflymach, treulio llawer mwy o amser ar y môr cyn gorfod cael eu trwsio, a threulio llai o amser yn yr ierdydd yn cael eu trwsio.
Er hynny, roedd y Llynges ar fin rhoi'r gorau i ddefnyddio haenau copr erbyn 1782 oherwydd iddi golli nifer o longau. Ym 1780 roedd yr HMS Royal George wedi'i hangori yn Harbwr Portsmouth pan holltodd ei chorff o gwmpas lefel y dŵr. Roedd 900 o bobl ar fwrdd y llong a bu farw pob un ohonynt. Yn yr ymchwiliad a ddilynodd, penderfynwyd bod y bolltau haearn a ddefnyddid i ddal yr haenen gopr wrth gorff y llong wedi rhydu oherwydd i'r ddau fetel adweithio a'i gilydd. Roedd hyn, yn ei dro, wedi achosi i'r pren oddi tanodd bydru.
Gan sylweddoli ei fod mewn perygl o golli marchnad fawr i'w gopr, aeth Thomas Williams ati i annog nifer o bobl i archwilio'r broblem. Llwyddodd Westwood i galedu a ffurfio bolltau trwy ddefnyddio rholeri a rhigolau o faint penodol, a defnyddio dŵr i oeri'r metal yn ystod y broses anelio.
Yn sgîl ei waith ef, a gwaith Collins ar y broses gynhyrchu, rhoddwyd patent ar folltau newydd wedi'u gwneud o gopr Mynydd Parys. Cant eu cynhyrchu yn Greenfield, Sir y Fflint, a rhoddwyd hwy ar werth gan Thomas Williams ym 1784.
Oherwydd y patent hwn ar y bolltau copr, a'r ffaith bod digonedd o gopr ar gael ym Mynydd Parys, roedd gan Thomas Williams fonopoli llwyr bron ar gyflenwi'r Llynges Frenhinol.
Cafodd yr HMS Victory ei hadnewyddu'n ddiweddar i ddathlu dau gan mlwyddiant Brwydr Trafalgar. Llwyddodd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch i gael gafael ar ddarn o'r haenen gopr gwreiddiol oddi ar y Victory, a chaiff ei arddangos erbyn hyn yn y Ganolfan Dreftadaeth a fydd yn ail-agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Y gobaith yw y bydd model o'r HMS Victory, wedi'i gynhyrchu'n lleol, yn cael ei arddangos yno hefyd.