Ond fe anwyd Harries ym 1924 a Ceri yn 1980, y ddau, wrth gwrs, mewn dwy flwyddyn naid ar y 29ain o Chwefror.Brodor o Gorseinon ger Abertawe ydy Mr Thomas, a symudodd i'r Dre ym 1960 i weithio fel pensaer i'r Cyngor Sir. Ganwyd a magwyd Ceri yng Nghaernarfon ac mae hithau yn gweithio i'r Cyngor yn gofalu am blant ag anghenion arbennig. Gyda'u penblwyddi swyddogol ond yn digwydd unwaith bob pedair blynedd, pryd bydd y ddau yn dathlu fel arfer? Ar y cyntaf o Fawrth y bydd Ceri ond mae Harries yn dathlu ar ddiwrnod ola' Chwefror a Dydd Gŵyl Dewi. 'Mi fydda i'n hoffi cael dau ben-blwydd,' meddai, fath â'r Cwîn!' Ac mae o wedi cael oriau o bleser, a pheint neu ddau am ddim ar hyd y blynyddoedd, wrth ofyn i bobl ddyfalu sawl pen-blwydd mae o wedi'i gael - nid faint ydi'i oed o, sylwer! Un arall sy'n cael ei phen-blwydd ar y 29ain ydy Carys Bradley-Roberts (isod) o'r Hendre, disgybl yn Ysgol Santes Helen. Wyth (a dwy) oed fydd Carys ac mae hi'nedrych ymlaen yn fawr. Fel arfer ar Fawrth y cyntaf y bydd hi'n dathlu ond mae'n debyg y bydd 'na fwy o sbloets eleni. Pen blwydd hapus iawn i' tri. Ac i'r rheiny ohonoch chi sy'n cael eich pen-blwydd at 29ain ond fod PAPUR DRE wedi methu â dod o hyd i chi eleni -fe'ch daliwn ni chi mewn pedair blynedd!
|