Ar ôl sgubo Llanrwst, Llandudno a Chei Connah o'r neilltu fe drechon nhw eu cymdogion o Ddyffryn Nantlle ar yr Oval yn y rownd gyn-derfynol. Mae'n dipyn o bluen yn het Cynghrair Gwyrfai fod dau o'u timau wedi gwneud cystal yn y Cwpan y tymor yma. Daeth cefnogwyr o bob cwr i weld yr ornest, a'r Cofis ifanc gafodd unig gôl yr hanner cyntaf wrth i Iwan Owens benio'n nerthol i'r rhwyd o gic gornel berffaith Nathan Craig. Chwaraewyd y gêm mewn ysbryd da drwyddi, ond yn yr ail hanner doedd gan y dyfarnwr, Gareth Jones, ddim dewis ond dynodi cic o'r smotyn i Cae Glyn wedi i Tomos Davies gael ei lorio yn y cwrt ar ôl rhediad llesmeiriol. Iwan Owens gymrodd y gic, fyddai wedi cyrraedd Bontnewydd oni bai fod 'na rwyd i'w rhwystro! Cae Glyn ddwy ar y blaen. Er gwaethaf ymdrechion amddiffynnol dewr Nantlle, llwyddodd Cae Glyn i ymestyn eu mantais cyn y chwiban ola'. Nathan Craig unwaith eto yn allweddol yn y symudiad gan groesi'n gywir o'r asgell chwith i Gerwyn Jones benio i'r gôl. Pob lwc felly i hogia' Cae Glyn yn erbyn Prestatyn yn y rownd derfynol, ar dir niwtral Conwy, yn ddiweddarach yn y mis.
|