Pentwr o nofelau ac amser i'w darllen yw'r wobr ar ddiwedd taith o dynnu'r cartref-dros-dro ar y draffordd lawr i Plymouth neu Portsmouth ac yna pum awr yn croesi'r Sianel ar fferi. Dros y Pasg dyma fentro'n bellach. A minnau mor ddi-antur yn arferol, beth am newid eleni a mynd i ben draw'r byd? Does unman yn bellach na Seland Newydd a dyma drefnu awyren i Auckland a wynebu chwe awr ar hugain o wisgo sanau hedfan tynn a SARS, oedd yn rhemp yn Singapore ar y pryd.
Ar ddiwedd y marathon-uwchben-y-cymylau, treulio rhai dyddiau yn dod i adnabod dinas fwyaf Seland Newydd cyn teithio mewn car ar hyd Ynys y Gogledd am Wellington. Cyrraedd y brif ddinas ac yno, yn Island Bay, dod o hyd i le bwyta gydag anferth o ddraig goch yn chwifio ar ei du allan. Doedd yr enw, Scorpio's, ddim yn awgrymu cysylltiad Cymreig, ond ar y tu mewn roedd Mike Howard a'i wraig Jo, y ddau o ardal Abertawe.
Aethant i Wellington ym 1988, wedi profiadau lu o deithio ar hyd y byd. Mae pobl o sawl diwylliant a gwlad wedi ymgartrefu yn SN, ac yn sgil hynny wedi agor tai bwyta sy'n cynnig bwydlenni amrywiol a rhyfeddol. Er hyn, sylwodd Mike a Jo nad oedd Cymru'n cael ei chynrychioli. Roedd y ddau yn awyddus i ddarparu bwydydd 芒 blas Cymreig ond yn bwysicach, i estyn y croeso a lletygarwch sy'n nodweddiadol ohonom.
Felly ym 1993, dyma agor 'Scorpio's'. Pam yr enw? Yr un yw'r gair yn Gymraeg, Saesneg, Groeg a Kiwi, dyna 'arwydd' Jo a nodwedd o'r arwydd yw ei fod yn gyfnewidiol felly disgwyliwch i'r naws a'r fwydlen amrywio.
Ar y tu allan, mae'r adeilad wedi'i baentio'n goch a gwyrdd ond ar y tu mewn, mae pob modfedd o'r waliau wedi'u haddurno 芒 phethau Cymreig, rhai wedi'u hanfon o Gymru, rhai wedi'u cludo draw yn arbennig gan ymwelwyr. Mae sawl crys coch yno, toriadau o bapurau newydd, lluniau 'enwau mawr' y byd adloniant, adroddiadau niferus ar helyntion y t卯m rygbi a hyd yn oed poster o gig gan 'Sobin a'r Smaeliaid', 'Ta Ta Botha' yn y 顿么尘 yng Nghaernarfon!
A beth sydd ar y fwydlen? Cyn disgrifio rhai o'r prydau, mae arni wmbreth o wybodaeth am Gymru yn ogystal 芒 rhywfaint o hanes Mike a Jo hyd yn hyn. Mae na fap, cyfeiriad at ein hoffter o gennin a daffodiliau, dydd Gwyl Dewi a sut mae cyfarch yn ogystal 芒 bytheirio yn Gymraeg.
I fwyta, gellwch ddewis 'Cawl' neu 'Fara lawr' i gychwyn, neu ddip 'Anadl y Ddraig' (oes mae chili ynddo ac mae'n boeth iawn). Fel prif gwrs beth am 'Gyw i芒r Caerdydd', 'Salad Cymru' (ie, coch, gwyn a gwyrdd) neu 'Bys a ffagots'? Am rywbeth bach melys cewch 'Bwdin Siocled Pont ar Fynach' neu 'Bwdin Bara Menyn'. Os am liqueur yn eich coffi cynigir, ymhlith eraill, y 'Shirley Bassey' ac ynddo Tia Maria sy'n dywyll a phwerus neu'r 'Bonnie Tyler' gyda Baileys sy'n olau a llyfn ond 芒 chic.
A phwy yw'r staff fydd yn tendio arnoch? Mae Jo yn y gegin a Mike yn sgwrsio gyda'i gwsmeriaid gan sicrhau fod pawb yn mwynhau, er gwaetha'r j么cs mae'n mynnu'u dweud! Dros y blynyddoedd mae ribidir锚s o Gymry ifanc oddi cartref wedi gweithio yno, rhai am benwythnos gan dderbyn llety dros nos a phryd o fwyd ac eraill am gyfnodau hirach.
Ar hyn o bryd mae Debbie o Aberd芒r yno, Rachel o Efrog Newydd ond a'i theulu o Borthcawl a Trystan o Gaernarfon. Fel yr unig un sy'n siarad Cymraeg, a hynny'n Gymraeg Cofi, caiff Trystan ei baredio fel gwobr mewn raffl gan Mike o flaen yr ymwelwyr o Gymru! Bob nos Sadwrn mae Mark sy'n 16 oed, yn chwarae'n piano. Mae'i jazz yn cwl iawn, iawn, ond bob hyn a hyn cawn 'Ar Hyd y Nos' neu un o ganeuon Ryan ganddo, er na fu erioed yma, ei fam o Samoa a'i dad o Loegr.
Mae trigolion Island Bay yn heidio i Scorpio's a'r Albanwyr, Gwyddelod a'r Kiwis lleol yn dewis mynd yno i ddathlu. Dydd Gwyl Dewi wrth gwrs yw un o achlysuron mawr y flwyddyn gydag aelodau Cymdeithas Gymraeg Wellington yn llenwi pob twll a chornel yn yr ystafell fwyta. Os ydych yn dathlu pen-blwydd, byddwch yn barod. Diffoddir y goleuadau a daw Mike 芒 theisen gri ac arni hufen channwyll wedi'i goleuo at eich bwrdd. Fel Cymry, does dim angen ein hannog, a bydd y staff a'r ciniawyr oll yn ymuno i ganu 'Pen-blwydd Hapus'.
A beth wnes i ychwanegu at y memorabilia ar y waliau? Wel doedd ganddynt ddim llun o un o'n s锚r mwyaf disglair felly, os ewch chi yno, chwiliwch am lun Bryn Terfel, ei wyneb, ei lais a'i dalent yr un mor adnabyddus yn Wellington ag yw yma yn Dre.
Hen ystrydeb yw'r 'Croeso Cymreig' ond mae pawb aiff i Scorpio's yn saff o'i brofi ac o gael noson gofiadwy.
Ann Hopcyn