Cnociodd ar ddrws un tŷ lle'r oedd yn gwybod fod gan y teulu ddau gi du. Daeth gwraig y tŷ at y drws a'r cŵn yn ôl eu harfer, wrth ei sodlau, yn neidio a chyfarth eu croeso. Roedd rhaid i'r wraig fynd yn ôl i'r tŷ i nôl arian i dalu.
Gwrthododd y dosbarthydd y cynnig i fynd i mewn ac arhosodd ar stepen y drws.
Gwelodd wrth i'r wraig droi i fynd yn ôl i'r tŷ fod yna dri ci yn ei dilyn. Pan ddychwelodd y wraig, dywedodd y dosbarthydd ei bod yn gweld fod gan y teulu bellach dri ci.
'Be welsoch chi?' gofynnodd y wraig, yn edrych yn graff ar y dosbarthydd.
'Wel, un ci gwyn, a'r ddau gi arferol,' oedd yr ateb.
'Dwn im sut i ddweud hyn wrthoch chi,' meddai'r wraig, 'ond dwi'n meddwl eich bod newydd weld ysbryd tÅ· ni!'
Dau gi du yn unig oedd gan y teulu, ond ymddengys bod ci arall blew golau wedi cael ei weld yn y tŷ ar sawl achlysur. Mae weithiau gyda'r cŵn eraill, weithiau ar ei ben ei hun, ond mae nifer o bobl bellach wedi ei weld dros gyfnod o flynyddoedd.
'Tydan ni ddim yn gwybod o lle mae o wedi dod na be mae o eisiau,' meddai'r wraig 'ond tydi o'n gwneud dim drwg i neb. Mi ydan ni'n ddigon hapus i fyw gydag o ond mae ymwelwyr yn cael dipyn o sioc ar adegau!'
Yr adeg yma o'r flwyddyn, mae'n tywyllu'n fuan a Noson Calan Gaeaf newydd fod. Beth arall annaearol sydd yn troedio strydoedd Caernarfon neu yn cuddio mewn corneli tywyll yn eich tÅ· chi?
Cysgwch yn dawel!
|