Fe gafodd un o'r galwadau hynny wythnos cyn Dolig.
Fore trannoeth roedd o ar ei ffordd i Nigeria.
O'r herwydd fe gollodd yr Ŵyl gartref efo'i deulu gan dreulio dydd Gŵyl San Steffan yn teithio nôl i Gaernarfon.
Mae Alun yn gweithio i un o gwmnïau mwya'r byd - os nad Y mwyaf - sef General Electric, a sefydlwyd ym 1892.
Mae 323,000 yn gweithio i GE ac Alun yn un o'r rhai
breintiedig hynny.
Peiriannydd ynni sy'n gweithio gyda tyrbeins a sustemau cyfrifiadurol ydy Alun.
"Aero energy", oedd y term ddefnyddiodd o. Nid aeth y gohebydd i holi'n llawer dyfnach dim ond
sylweddoli a gwerthfawrogi ei fod yn waith arbenigol iawn ac sy'n golygu bod Alun, cyn ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, wedi teithio'r byd yn y ddwy flynedd y
bu'n gweithio i General Electric.
Yn y cyfnod byr hwnnw bu yn yr Unol Daleithiau, Twrci, Israel, Norwy, Kuwait, Sbaen a Nigeria gan weithio'n achlysurol yn y gwledydd hyn yn ogystal.
Mae pencadlys GE ym Mhrydain yn Lincoln.
Yng Ngholeg Llandrillo y cychwynnodd y daith mewn gwirionedd - dwy flynedd yno
ar ô1 yr ysgol yn astudio peirianneg electronig ac yna tair blynedd arall yn astudio yn Wrecsam.
Wedyn chwilio am waith, a chael y bachiad delfrydol gyda General Electric.
"0 fewn dim i ddechra gweithio i GE ges i'n anfon i Sbaen am fis," meddai Alun. "Roedd hynny'n braf iawn." Ac er ei fod yn cael aros mewn gwestai moethus gan amlaf,
tydi bywyd ddim yn fel i gyd drwy'r amser.
Er ei fod yn gwerthfawrogi'r gwmnïaeth, tydi cael ei anfon ar rigiau olew oddi ar arfordir yr Alban ddim yn brofiad y mae Alun yn ei fwynhau gymaint a hynny.
"Tydwi ddim yn rhy hoff o helicoptars," meddai. " Er bod pawb sy'n gorfod mynd ar y rigs yn cael hyfforddiant mewn
simulator ac yn esgus crasho i bwll nofio a
ballu, pan dwi yn yr helicopter go iawn, dwi'n dal ddim yn rhy cìn arni !"
Ond mae
Alun wedi gweithio oddi ar arfordir Aberdeen sawl gwaith."
Chwe wythnos ydy'r cyfnod hira gei di weithio ar y rigs," ychwanega.
'Dyw gweithio mewn gwlad dramor gynnes ddim mor braf a hynny bob tro chwaith.
Mynd a rhan allweddol (a'i gosod) i injan oedd wedi torri mewn ffatri sment fawr oedd ei dasg ddiweddaraf yn Nigeria.
Saith awr o hedfan i Lagos a phum awr mewn car wedyn a'r daith honno yn cynnwys tri char i gyd - y car yr oedd Alun ynddo a dau gar
arall o bopty yn ei warchod.
"Roedd gen i 5
bodyguard", meddai, " achos ti byth yn gwybod be ddigwyddith yn Nigeria.
"Ma dwyn - rwbath - yn rhemp yno. O'dd 0 braidd yn scary tro cynta - fus i yno ym mis Mawrth llynedd hefyd - ond doedd hi ddim mor ddrwg tro yma."
Ofnus neu beidio mae Alun yn mwynhau ei waith a'r amrywiaeth o lefydd mae'n cael ymweld a nhw.
A dweud y gwir, does ryfedd yn y byd ei fod
yn hoff o deithio gyda'i dad yn gweithio i Stena a'i fam yn un o berchnogion cwmni'r Seren Arian!
Ond lle nesa i Alun? Does ganddo ddim syniad, nes canith y ffôn na!