Syrthiodd mewn cariad gyda un o'i fyfyrwyr - a phedair blynedd yn ddiweddrach... priodi oedd ei hanes!
Priododd Sean ac Ying Lee yn swyddogol yn Beijing ar Fehefin 27, ond cafwyd bendith gyda theulu Sean yn bresennol yn Eglwys Santes Helen ar Hydref 4ydd. Cymerodd aelodau teulu Sean ran amlwg yn y gwasanaeth, gyda Gwenno Glyn, ei gyfnither, yn canu'r delyn, Iwan, ei gefnder, yn canu'r organ, Alun (Alcs), ei ewythyr, yn darllen a chafwyd cân neu ddwy gan Alun Llanrug, ffrind. Daeth rheini Ying i Gymru i fod yn rhan o'r dathliadau, er nad ydynt yn gallu siarad Saesneg na Chymraeg. Mae tad Ying yn Athro Cemeg yn y Brifysgol yn Beijing a phan oedd yng Nghymru cafodd groeso mawr gan Adran Gemeg Prifysgol Bangor. Erbyn hyn mae'r ddau wedi dychwelyd i Tsiena, ble y mae Sean yn dal i fod yn ahtro Saesneg a Ying yn athrawes yr iaith Mongolian.
|