Fe aeth y blip ar ei felt ac i lawr a fo ar frys i'r stesion. Rhwng tua 11.30 a hanner nos oedd hi a dyma fel mae Harold yn cofio'r digwyddiad:
"Dwy machine oedd yn y stesion pryd hynny. Fi oedd dreifar yr ail machine i adael y stesion ond gan mod i'n lleol ac yn gwybod y ffordd yn dda o gwmpas Dre machine ni oedd y cyntaf i gyrraedd y tân. Roedd dau arall ar yr un machine a fi, sef V. O. Hughes - y fo oedd mewn charge - a Jack Harding Jones.
"Roedd y Capel yn wenfflam pan ddaru ni gyrraedd. Well alight fel fydda ni yn ei ddeud. Welis i rioed y fath dân. Y bore wedyn be oedd wedi'n synnu ni oedd bod drysau derw trwm a hysbysfwrdd y Capel yn dal yno heb eu llosgi na'u difetha fawr ddim yn y tân.'"
Ar ôl y tân: Cerflun Moreia
Efallai i rai ohonoch chi sylwi fod 'na gerflun dur ar wal Festri Moreia erbyn hyn. Comisiwn gan Ffilmiau'r Nant i'r artist, Ann Catrin, ydy o ac mae'n adrodd hanes y tân a'r adeilad.
Os syllwch chi'n fanwl fe welwch chi adenydd y ffenics yn codi o'r fflamau. Yn y canol mae organ enwog Moreia, honno y bu'r diweddar Peleg Williams yn ei chanu cyhyd. Ac o'r tân fe lifodd Nant, sef y cwmni a ymgartrefodd yn Festri Moreia ym 1987, un flynedd ar ddeg ar ôl y drychineb. Platiau Moreia
Tra'n ailbaentio ac ailaddurno'r adeilad yn ddiweddar fe ddaethpwyd o hyd i rai o hen drysorau Moreia. Yng nghrombil un cwpwrdd yn y Festri roedd 'na gryn ddwsin o blatiau cig anferth, trymion ac arnyn nhw'r dyddiad 1900. Fe gaiff Nant fwyta'u cinio Dolig mewn steil eleni!
|