Bob mis fel rhan o brosiect cerdded, trefnir tripiau sydd yn rhoi cyfle i chi gael mynd am dro i lefydd braf i wneud ychydig o gerdded a chael picnic. Y mis dwytha trip i Abergwyngregyn a gafwyd ac, fel y gwelwch o'r llun, cafwyd diwrnod braf a phawb wedi mwynhau eu hunain.
Bydd y trip nesaf ddydd Gwener, y 1af o Fehefin.
Y tro yma trip i Gwm Idwal - cerdded o amgylch Llyn Idwal a chael picnic. Os ydych am fynd mae'n rhaid i chi ffonio Linda (01286 677024) yn TÅ· Pobl Peblig. Cofiwch mai trip i bobl Peblig yn unig ydi hwn.
Llwyddiant arall Partneriaeth Pobl Peblig yw bod deg person lleol wedi llwyddo i gael tystysgrif Tywyswyr Gwirfoddol ar Deithiau Cerdded yn ddiweddar.
Mae hyn yn golygu y byddant yn gymwys i fynd a grwpiau allan i gerdded. Y n barod mae'r deg wedi bod yn rhoi yr hyn maent wedi ei ddysgu ar y cwrs ar waith trwy fynd allan gyda'i gilydd ar deithiau cerdded o gwmpas Caernarfon. Llongyfarchiadau mawr iddynt.
Datblygiad cyffrous arall yw bod y Bartneriaeth yn cael defnydd o'r tŷ drws nesa - 36 Y sgubor Goch - ac ar hyn o bryd yn ceisio barn pobl ifanc Peblig ynglŷn â pha ddefnydd maent hwy yn dymuno ei wneud ohono. Os oes gennych syniad yna galwch heibio Tŷ Pobl Peblig, neu ewch i'r sesiynau rhannu syniadau sy'n cael cynnal yno bob nos Lun, o 6.30 ymlaen
|