Murlun o saith stori yn ymwneud ag Iesu Grist ydy'r gwaith ac fe gymerodd bythefnos i'w gwblhau. "Hwn ydy'r 19eg murlun i mi ei wneud," meddai Manon, sy'n dod o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaernarfon. "Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ysgolion Sir Fflint a Sir Ddinbych," meddai. Mae pawb yn Santes Helen wrth eu bodd efo'r "wal newydd". "Mi ddaeth Manon yma ryw ddiwrnod," meddai'r pennaeth Billy Evans "a ffolder o'i gwaith dan ei braich. Ac mi feddyliais inne y byddai wal y neuadd yn ddelfrydol i rywbeth fel hyn." A chan fod y neuadd yn cael ei defnyddio ar gyfer y gwasanaeth boreol dyma benderfynu ar rai o straeon yr Iesu fel testun i'r murlun. "Dwn i ddim pam na fydden i wedi meddwl am rywbeth fel hyn ynghynt. Mae'n help garw," meddai Billy, sy'n ymddeol ddiwedd y tymor gan adael wal gyfan o waith cartref parod i'w olynydd. Roedd Manon hithau yn hapus iawn a'r murlun ac yn hynod 0ofalch o'r holl gyfarchion yn "Diolch i Michelle" gafodd hi ar ôl ei orffen. "Michelle" yw ei chymeriad yn "Rownd a Rownd".
|