Lobscows ar Lwyfan Rhagfyr 2008 Lobscows oedd teitl diweddaraf sioe Sbarc a Chofis Bach yn Galeri ac ella bod 'na gliw yn y teitl.
Hanes cysylltiad yr ardal hon a dinas Lerpwl oedd thema'r sioe.
Mae Lerpwl wrth gwrs yn Ddinas Diwylliant Ewrop eleni, ac fel y dywedodd y cynhyrchwyr, prin bod neb yn yr ardal yma sydd heb fod a rhyw gysylltiad a'r ddinas - eu teulu'n byw neu'n gweithio yno neu ymweld a'r ysbyty o bosib.
Cafodd dros 1000 blant gyfle i ymddangos ar lwyfan Galeri yn Lobscows wrth iddyn nhw adrodd stori Deio a'i deulu a'u cysylltiad dychmygol a Lerpwl. "Er bod llwyfannu sioe gyda chymaint o blant yn y cast yn dipyn o her, roedd hefyd yn bleser, meddai Rhian Cadwaladr (cynhyrchydd-gyfarwyddwr). Yr is-gynhyrchydd oedd Tammi Gwyn a Sioned Wyn Jones/Jeny Pearson a Manon Llwyd oedd y cyfarwyddwyr cerdd.