´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Mark gydag Elis Owain Capten yn gwneud ei farc
Hydref 2006
Ers gadael Ysgol Syr Hugh Owen yn 16 oed mae Mark Griffith wedi cael pymtheng mlynedd amrywiol, diddorol a phrysur iawn.
Mae capten tîm rygbi Dre wedi bod yn plastro, bocsio a chwarae lot o rygbi - yn Iwerddon, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau.

Mark ydy'r unig Gofi go iawn sy'n chwarae rygbi i Gaernarfon ar y funud. Fe'i magwyd yn Stryd y Farchnad, o fewn muriau'r Dre, yn un o bedwar brawd.

Gadawodd yr ysgol i fod yn brentis plastrwr ond ar ôl tair blynedd yn dysgu'i grefft a chwarae i dîm dan 19 gogledd Cymru fe gododd ei bac a mynd i chwarae i Ballina yn County Mayo, Iwerddon. [Yr hyfforddwr yno gyda llaw oedd Gary Samuel, cyn-fewnwr Caerdydd a Phontypridd]. Clwb hanner-broffesiynol ydy Ballina, felly roedd y plastro'n handi!

Gwnaeth gryn argraff yn Ballina nes cael gwahoddiad i fynd i ben draw'r byd i chwarae. Ym 1998 ymunodd â chlwb Harbour yn Otago, Seland Newydd. Un o'i gyd-chwaraewyr yno oedd yr enwog Jeff Wilson, a chwaraeodd i'r Crysau Duon ac a gynrychiolodd ei wlad ar y meysydd criced. Dychwelodd i Ballina ar ôl blwyddyn yn Otago ond, ar ôl tair blynedd arall yn Iwerddon, daeth y chwiw i deithio eto. Yr Unol Daleithiau oedd hi'r tro yma.

Y Cofis yn trechu Old Illtydians, Caerdydd 15 - 0 'Y cwbl nesh i,' meddai Mark, 'oedd mynd ar y we a ffendio clwb. Ac mi fush i yn Breconbridge, Colorado am ryw bum mis.'

Ond yn ei ôl y daeth o - ie, am y trydydd tro - i Ballina a threulio tymor yn gapten. Dyna pryd y cafodd anaf drwg a llawdriniaeth i'w gefn, anaf a'i gyrrodd i focsio am sbel!

'O'n i i isho cadw'n ffit, ond oherwydd 'y 'nghefn fedrwn i ddim rhedeg gormod,' meddai. 'Efo clwb bocsio Dre gesh i bum Caernarfon ffeit - ennill pedair.'

Mae'r cefn wedi gwella erbyn hyn ac mae Mark yn gapten ar glwb rygbi hogia Caernarfon am y trydydd tro. Peidiodd y teithio. Mae'n dal i blastro i Dan Jo Bontnewydd, ac mae'r cawr ail-reng v 'setlo' rwan, medda' fo. Awel a'r newydd-ddyfodiad, Elis Owain sy'n gyfrifol am hynny!

Curodd y Cofis Old Illtydians, Caerdydd ar y Morfa dan gapteiniaeth Mark - gorffen mor uchel â phosib yn y Gynghrair ac ennill cwpan y Gogledd ydy'r prif nod rŵan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý